Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau fod y gêm rhwng Cymru a’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi’i gohirio yn sgil pryderon am coronafeirws.
Roedd y gemau eraill y bencampwriaeth eisoes wedi’u gohirio oherwydd gofidion am yr haint.
Ddydd Iau (Mawrth 12) roedd Plaid Cymru yn galw am ohirio digwyddiadau mawr, gan gynnwys yr ornest yn Stadiwm Principality.
Dyw cyngor swyddogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar dorfeydd mawr o bobl yn Lloegr a Chymru heb newid, er bod penderfyniad wedi ei gymryd ddydd Iau (Mawrth 12) i symud mewn i gyfnod “oedi” wrth ddelio â’r firws.
Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys cystadleuaeth y Pro14 a gêm bêl-droed gyfeillgar Cymru a’r Unol Daleithiau eisoes wedi’u gohirio oherwydd coronafeirws.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi galw am ganslo digwyddiadau torfol a gemau chwaraeon er mwyn cyfyngu ymlediad yr haint.
Ac aeth ymlaen i alw am becyn o fesurau, gan gynnwys galw ar bobl i weithio o adref pan yn bosib, cynyddu’r profion iechyd, a chau ysgolion a cholegau.
Nid yw’n glir eto pryd fydd gêm olaf Cymru yn y bencampwriaeth yn cael ei chynnal.