Mae’r Gymdeithas Bêl-droed newydd gyhoeddi fod y gêm gyfeillgar rhwng Cymru ag Awstria yn Abertawe ar Fawrth 27 wedi ei chanslo.

Mae’r gêm rhwng Cymru ‘C’ a Lloegr ‘C’ oedd i fod i gael ei chwarae yng Nghaernarfon ar Fawrth 24 wedi ei gohirio hefyd.

Mae holl gemau pêl-droed wedi eu gohirio tan Ebrill 4.

Daw hyn wedi’r penderfyniad i ohirio gemau Abertawe a Chaerdydd yn y Bencampwriaeth tan fis nesaf.