Sgoriodd Caerdydd yn hwyr i sicrhau pwynt mewn gêm gyfartal ar eu hymweliad â Pride Park yn erbyn Swydd Derby  nos Fercher (Hydref 28).

Roedd Martyn Waghorn wedi sgorio o gic rydd ar ôl 24 o funudau i roi’r tîm cartref ar y blaen, yn dilyn trosedd gan Joe Ralls.

Ond roedd Adar Gleision yn rheoli’r meddiant am gyfnodau hir, a bu’n rhaid iddynt fod yn amyneddgar yn yr ail hanner.

Ac er i ddynion Neil Harris fethu dau gyfle gwych, sgoriodd ymosodwr Cymru Kieffer Moore gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, i sicrhau pwynt.

Dydy’r Adar Gleision heb golli ers pum gêm bellach, er mai dim ond un o’r gemau hynny maen nhw wedi ennill.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn 14eg yn y Bencampwriaeth, pedwar pwynt oddi ar y safleoedd gemau ail-gyfle.