Fe fydd cabinet Llywodraeth Cymru’n cyfarfod yfory i drafod goblygiadau unrhyw gyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr ar Gymru.

“Byddwn yn trafod effeithiau unrhyw faterion a all ymwneud â’r ffiniau [rhwng Cymru a Lloegr] yng ngoleuni unrhyw gyhoeddiad o Rif 10,” meddai’r Prif Weinidog mewn neges ar Twitter.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson am gyfyngiadau llym yn Lloegr.

Pwysleisiodd Mark Drakeford na fydd Boris Johnson yn cynnwys Cymru yn ei gyhoeddiad ac y bydd clo dros dro Cymru yn dod i ben ar 9 Tachwedd fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

“Bydd unrhyw gyhoeddiad gan 10 Downing Street yn ymwneud â Lloegr,” meddai. “Bydd clo dros dro Cymru’n dod i ben ddydd Llun, 9 Tachwedd.”

Roedd Mark Drakeford eisoes wedi dweud ddoe y bydd yn cyhoeddi ddydd Llun pa gyfyngiadau fydd yn parhau wedi hynny.

Dros 50,000 o achosion

Yn y cyfamser, dal i gynyddu mae niferoedd yr achosion coronafeirws yng Nghymru, sydd bellach wedi codi i dros 50,000.

Cafodd 1,301 o achosion newydd eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw, dydd Sadwrn.

Bu farw 13 yn rhagor o gleifion o’r haint yn yr un cyfnod 24-awr diweddaraf, gan godi’r cyfanswm i 1,872.