Honiad diweddaraf Donald Trump yn ymgyrch etholiad America yw bod meddygon yn gor-gyfrif nifer y marwolaethau coronafeirws yn fwriadol am fod hynny o fudd ariannol iddyn nhw.
Mewn rali ym Michigan neithiwr, meddai:
“Mae’n meddygon yn cael mwy o arian os yw rhywun yn marw o Covid. Mae’n meddygon yn bobl glyfar iawn. Felly maen nhw’n dweud bod pawb yn marw o Covid.”
Ni chynigiodd unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei honiad.
Mewn ymateb, dywedodd yr American Medical Association fod yr awgrym “yn gyhuddiad maleisus, gwarthus a chwbl gyfeiliornus”.