Mae’r actor poblogaidd ac amryddawn Syr Sean Connery wedi marw yn 90 oed.

Daeth i enwogrwydd fel y James Bond cyntaf, rhan a chwaraeodd mewn saith o ffilmiau rhwng Dr No yn 1962 a Never Say Never Again yn 1983. Ymhlith y ffilmiau eraill y chwaraeodd ran flaenllaw ynddyn nhw’n ddiweddarach roedd Highlander, The Untouchables ac Indiana Jones and the Last Crusade.

Er iddo dreulio rhan helaeth o’i oes yn byw yn America a’r Bahamas, daliodd yn Albanwr i’r carn ac yn gefnogwr pybyr i’r SNP ac annibyniaeth i’r Alban.

Yn enedigol o Gaeredin, gadawodd yr ysgol yn gynnar i weithio ar rownd laeth yn y ddinas cyn ymuno â’r Llynges Frenhinol am dair blynedd. Dechreuodd ei yrfa actio pan gafodd ran yng nghôr y morwyr yn y ffilm gerddorol South Pacific. Roedd hefyd yn bêl-droediwr dawnus.

Y tro diwethaf iddo ymddangos yn gyhoeddus oedd ym mis Medi 2012 i gefnogi ei gyd-Albanwr Andy Murray yn yr US Open.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn refferendwm annibyniaeth yr Alban, anfonodd neges o gefnogaeth o’i gartref yn y Bahamas yn dweud: “Pobol yr Alban yw gwarcheidwaid gorau eu dyfodol eu hunain.”