Mae’r tywydd garw yn sgil Storm Aiden a gweddillion Corwynt Zeta wedi arwain at bryderon am lifogydd mewn rhannau helaeth o Gymru.

Ar hyn o bryd, mae 34 o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd – rhybuddion melyn – mewn grym ar hyd yr arfordir gorllewinol o ogledd Môn i Fro Morgannwg, ac yn ymestyn at ddyffrynnoedd Conwy, Dyfrdwy, Gwy a Nedd i’r dwyrain.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd ddarogan tywydd gwlyb a gwyntog ledled Prydain gyda’r storm yn symud o’r gorllewin heddiw a chynffon y corwynt yn cyrraedd yfory.

Dywedodd llefarydd o’r Swyddfa Dywydd fod y glaw trwy sy’n cael ei ddarogan achosi llifogydd “yn unrhyw le bron” y penwythnos yma.

“Ddydd Sul byddwn yn gweld mwy o law yn dod o’r de-orllewin, gan effeithio ar y Deyrnas Unedig i gyd,” meddai.

“Fe fydd yn tawelu’n raddol at yr wythnos nesaf, pryd y byddwn yn gweld newid mawr tuag at dywydd mwy sefydlog.”