Mae aelodau seneddol blaenllaw ar adain chwith y Blaid Lafur yn galw ar i Jeremy Corbyn gael ei adael yn ôl fel aelod.

Roedd y cyn-arweinydd wedi cael ei wahardd oherwydd ei ymateb i adroddiad damniol ar wrth-semitiaeth yn y blaid.

Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi dyfarnu bod y blaid Lafur wedi torri cyfraith cydraddoldeb pan oedd o dan arweiniad Jeremy Corbyn. Wrth ymateb i hynny, dywedodd fod gwrth-semitiaeth “wedi cael ei or-ddweud yn ddramatig am resymau gwleidyddol”.

Apeliodd gyn-ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell, mewn rali rithiol wedi’i threfnu gan y grwp ymgyrchu Momentum, ar i aelodau beidio â gadael Llafur na chychwyn “rhyfel cartref”.

Daw hyn ar ôl adroddiad ym mhapur newydd y Guardian fod cefnogwyr Jeremy Corbyn yn y blaid seneddol wedi trafod ymddiswyddo o’r blaid ac eistedd fel aelodau annibynnol.

Un arall sydd wedi galw am i Jeremy Corbyn gael ei adael yn ôl yw cyn-ysgrifennydd cartref yr wrthblaid, Dianne Abbott. “Fydd ei wahardd ddim yn ein helpu ni i ennill yr etholiad nesaf,” meddai. “Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw i bawb yn ein plaid ddod at ei gilydd a gwella’r ffordd mae Llafur yn ymdrin â hiliaeth a gwrth-semitiaeth.”

Dywed arweinydd presennol Llafur, Syr Keir Starmer, nad oes “unrhyw reswm dros ryfel cartref” yn ei blaid.

“Dw i eisiau uno’r blaid – ac ar sail hynny y gwnes i ymladd fy ymgyrch arweinyddiaeth,” meddai.

“Roedd Jeremy Corbyn yn gwybod yn iawn y byddwn i’n rhybuddio y gallai unrhyw awgrym fod gwrth-semitiaeth wedi cael ei or-ddweud arwain at waharddiad.

“Dw i’n siomedig iawn yn yr ymateb gan Jeremy Corbyn, yn enwedig gan imi siarad gydag ef y noson cynt i ddweud sut y byddwn i’n ymdrin â’r adroddiad.”