Cafodd o leiaf 27 o bobl eu lladd mewn daeargryn a drawodd arfordir Twrci a gogledd ynys Samos yng Ngwlad Groeg bnawn ddoe.

Cafodd adeiladau eu chwalu yn Izmir, trydedd dinas fwyaf Twrci, lle mae achubwyr yn dal wrthi’n chwilio drwy’r adfeilion. Fe wnaeth y daeargryn achosi tsunami bychan hefyd yn ardal Seferihisar ac ar ynys Samos gan arwain at lifogydd yno.

Yn ogystal â’r marwolaethau, cafodd dros 800 o bobl eu hanafu.

Roedd y daeargryn yn mesur 6.9 ar raddfa Richter ac wedi’i ganoli ym môr Aegea, ar ddyfnder o 10 milltir, i’r gogledd-ddwyrain o Samos. Roedd ei effeithiau i’w teimlo cyn belled i ffwrdd ac Athen ac Istanbul, er nad oedd adroddiadau o ddifrod ynddynt.