Mae Prifysgol Bangor yn bwriadu uno chwe ysgol a pum uned academaidd yng Ngholeg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes i greu tair ysgol newydd.

Tra bod strwythur chwe ysgol bresennol yn cael ei dorri’n dair rhan mae 30 o staff y coleg hefyd yn wynebu colli eu swyddi.

Golyga hyn mai Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes sydd wedi’i daro waethaf gan y toriadau.

Mae pryder y gall yr ailstrwythuro darfu ar addysg, amharu ar gymhareb myfyrwyr i staff, a gwneud cyrsiau yn llai deniadol.

Daw hyn wedi i Brifysgol Bangor ddechrau cyfnod ymgynghori er mwyn gwneud arbedion o £13m.

Oherwydd effaith Covid-19 ar goffrau’r Brifysgol mae 200 o swyddi dan fygythiad gyda 80 o staff academaidd a 120 o staff cynorthwyol yn wynebu’r fwyell.

Effaith ar fyfyrwyr

Mae dogfen fewnol y mae golwg360 wedi ei gweld yn dangos bod y Brifysgol yn cydnabod sawl risg sy’n gysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig, gan gynnwys y potensial o darfu ar addysg myfyrwyr.

Mae undebau eisoes wedi rhybuddio y bydd y diswyddiadau yn niweidio enw da Prifysgol Bangor.

Er y bydd camau yn cael eu cymryd er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol cydnabyddir y gallai’r newidiadau effeithio ar addysg myfyrwyr, amharu ar gymhareb myfyrwyr i staff, a gwneud cyrsiau yn llai deniadol.

Mewn adran o’r ddogfen yn trafod yr effaith bosib ar fyfyrwyr, mae’r ddogfen yn nodi:

“Myfyrwyr mewn meysydd pwnc y byddai’r newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt, gan gynnwys newidiadau i strwythurau a lefelau staff is.

“Efallai y bydd lleihad mewn dewisiadau modiwlau yn y cwriciwlwm yn effeithio ar fyfyrwyr.

“Efallai y bydd llai o staff academaidd mewn rhai meysydd pwnc [PhD], gan arwain at golli arbenigedd mewn rhai meysydd.”

Mae’r ddogfen yn nodi bod trefniadau mewn lle gan y brifysgol er mwyn cyfathrebu â myfyrwyr yr effeithir arnynt ac y bydd y brifysgol roi cymorth i staff i ddod o hyd i ffyrdd newydd o reoli llwyth gwaith.

Newidiadau arfaethedig i Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes:

Mae oddeutu 30 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y fantol yng Ngholeg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes, fel a ganlyn.

Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau

Bydd yr ysgolion canlynol yn uno i greu’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau, gydag oddeutu 10.5 o swyddi llawn amser yn y fantol:

  • Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
  • Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
  • Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a’r Cyfryngau

Cynigir bydd y strwythur newydd hefyd yn cynnwys Yr Uned Technolegau Iaith – uned sydd yn rhan o Ganolfan Bedwyr ar hyn o bryd – a Darpariaeth Cymraeg i Oedolion y Brifysgol, uned sydd ar ei phen ei hun ar hyn o bryd.

Mae’r Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd ymhlith rheini sydd wedi galw ar y Brifysgol i beidio symud rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr a “chwalu’r pwerdy iaith arloesol”. Ac mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi dweud wrth golwg360 bod Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau gyda Phrifysgol Bangor ynglŷn â Chanolfan Bedwyr.

Ysgol Hanes, Cyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Bydd yr ysgolion canlynol yn uno i greu’r Ysgol Hanes, Cyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, gydag oddeutu 12.6 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y fantol:
  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
  • Y Gyfraith a Throseddeg

Ysgol Busnes a Rheolaeth

Cynigir bydd strwythur newydd yr Ysgol Busnes a Rheolaeth yn cynnwys yr Ysgol Fusnes bresennol a’r MBA Banciwr Siartredig – a ddarperir ar hyn o bryd gan y Ganolfan Reolaeth.

Mae oddeutu 4.7 o swyddi llawn amser yn y fantol yn yr Ysgol Busnes a Rheolaeth

Colegau eraill

Er mai Coleg y Celfyddydau Dyniaethau a Busnes sydd wedi ei daro waethaf mae Coleg y Gwyddorau Dynol a Choleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Electronig hefyd yn wynebu ailstrwythuro a thoriadau.