“Dw i’n siŵr fydd yr ailstrwythuro ddim yn cael gwared ar y gwaith allweddol maen nhw wedi ei wneud dros sawl blwyddyn.”

Dyna mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, wedi ei ddweud am gynlluniau Prifysgol Bangor i ailstrwythuro uned technoleg iaith, Canolfan Bedwyr.

Mae’r brifysgol wedi cadarnhau bod cynnig ar y gweill i “drosglwyddo rhai o swyddogaethau” y ganolfan ieithyddol i rannau eraill o’r brifysgol.

Ac mae sylfaenydd a chyn-bennaeth y ganolfan, Dr Cen Williams, wedi dweud bod wrth y BBC bod hynny’n gyfystyr â “chwalu’r sefydliad yn llwyr”.

Wrth ateb cwestiwn gan golwg360 mewn cynhadledd i’r wasg, mae’r Gweinidog wedi dweud ei bod yn obeithiol am oblygiadau’r cam i waith y ganolfan, a’i bod mewn cysylltiad â’r brifysgol.

“Jest i ddweud yn glir ein bod ni wedi bod yn cael trafodaethau gyda phrifysgol Bangor ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghanolfan Bedwyr,” meddai.

“Mae’r cynllun technoleg yn hollbwysig i’r ffordd r’yn ni’n gweld dyfodol yr iaith Gymraeg.

“Ac wrth gwrs mi fyddwn ni’n parhau i weithredu gyda’r brifysgol ym Mangor a sicrhau bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud yng Nghanolfan Bedwyr yn y gorffennol ddim yn cael ei golli.”

Canolfan Bedwyr sydd yn gyfrifol am feddalwedd cywiro Cymraeg ‘Cysill’, a geiriadur ‘Cysgeir’. Mae hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ble mae’r Gymraeg?

Yn ystod y gynhadledd, fe wnaeth golwg360 hefyd dynnu sylw at ddefnydd y Gymraeg yng nghynadleddau Llywodraeth Cymru i’r wasg.

Prin yw’r defnydd o’r iaith yn y cynadleddau, ac o ystyried y gynulleidfa sydd gan y sesiynau, onid yw’r Llywodraeth yn methu cyfle i hybu, hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg?

“Dw i’n falch iawn heddiw fy mod i wedi cael cyfle i ddefnyddio’r iaith Gymraeg,” meddai Eluned Morgan.

“Ac wrth gwrs mae’n bwysig cydnabod ei fod yn bosibl i bobol cael y wybodaeth sydd angen o Twitter a llefydd eraill hefyd.

“Ond, wrth gwrs, beth sy’n bwysig yw bod pobol gyda’r cyfle i glywed, yn y lle cyntaf, beth sy’n digwydd yn ein cymdeithasau yn arbennig pan mae’n dod i’r coronaferiws.

“A dyna beth r’yn ni’n ceisio gwneud yn y press conferences yma.”

Roedd gohebydd golwg360 wedi medru holi cwestiynau trwy’r Gymraeg yn unig yn y sesiwn am fod y gweinidog yn medru’r Gymraeg. Byddai hynny ddim wedi bod yn bosib â gweinidog di-Gymraeg.

Mae’r diffyg darpariaeth wedi cael ei feirniadu ar y cyfryngau Cymraeg yn y gorffennol.