Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, wedi dweud bod 44 yn rhagor o farwolaethau o’r coronafeirws wedi’u cofnodi ddydd Mercher.
“Mae’n ofid mawr i mi ddweud wrthych y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn adrodd 44 yn rhagor o farwolaethau,” meddai.
“Rwy’n meddwl am y rhai sy’n dioddef, ac yn enwedig am y teuluoedd sy’n galaru mewn cyfnod anodd iawn i ni eisoes.”
Oedi
44 yw’r nifer uchaf o farwolaethau a gofnodwyd yng Nghymru mewn un diwrnod ers dechrau’r pandemig. Fodd bynnag, mae’n debyg bod oedi yn golygu bod y marwolaethau wedi’u gwasgaru ar draws nifer o ddiwrnodau ac nad oeddent i gyd yn digwydd yn ystod y 24 awr flaenorol.
Gan esbonio hyn, dywedodd Dr Robin Howe, cyfarwyddwr digwyddiadau ymateb achosion Covid-19 yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Oherwydd oedi o ran amser adrodd, mae rhai o’r marwolaethau a gynhwyswyd yng nghyfanswm heddiw o’r dyddiau blaenorol.
“Mae’r dangosfwrdd data yn offeryn adrodd cyflym sy’n destun adolygiad a chysoni parhaus.”
Serch hynny, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg fod y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn agos iawn at gyrraedd y brig a welwyd fis Ebrill a bod mwy na 250 o achosion o’r haint ymhob 100,000 o’r boblogaeth.
Mae’r cyfraddau uchaf o 500 o achosion ymhob 100,000 o’r boblogaeth yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.
Iechyd Meddwl
Amlinellodd Eluned Morgan y gefnogaeth sydd ar gael i bobol sydd wedi profi iselder o ganlyniad i’r pandemig.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gwario o £700m y flwyddyn ar iechyd meddwl – mwy nag ar unrhyw agwedd arall o’r gwasanaeth iechyd.
Mae £3m ychwanegol wedi ei glustnodi i ddarparu help llaw i bobl sy’n chwilio am waith neu lety parhaol sydd â phroblemau iechyd meddwl neu yn camddefnyddio sylweddau.
Mae £1.3m hefyd wedi ei fuddsoddi mewn gwasanaeth therapi ar-lein.
Ers lansio wyth wythnos yn ôl mae 2,000 o bobol cofrestru â’r gwasanaeth.
“Yn ogystal ag effeithio ar iechyd corfforol, mae Covid-19 hefyd yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobol”, meddai.
“Mae yna rai sy’n teimlo teimladau o ddicter, pryder, iselder, ofn, poeni a hyd yn oed anobaith.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gallu cydnabod y teimladau hyn ac yn gallu siarad yn agored amdanyn nhw.”
Cafodd Eluned Morgan ei phenodi yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg fis diwethaf.
Y gobaith yw bydd ei phenodiad yn rhoi cyfle i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafeirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o hyn ymlaen.