Mae Prif Weinidog y DU Boris Johnson wedi gwrthod beirniadu Donald Trump am hawlio buddugoliaeth yn etholiad arlywyddol yr UDA a bygwth defnyddio’r llysoedd i atal pleidleisiau rhag cael eu cyfrif.
Daw hyn ar ôl i Donald Trump ddweud ei fod e’n barod i droi at y Goruchaf Lys gan honni “twyll enfawr” yn yr etholiad, yn ogystal â chyhuddo’r Democratiaid o “geisio dwyn yr etholiad”.
Yn y cyfamser, mae tîm ymgyrchu Joe Biden wedi cyhuddo’r Arlywydd Donald Trump o “ymdrech noeth i ddileu hawliau democrataidd trigolion Americanaidd”.
Gwrthododd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, wneud sylw am yr ornest rhwng Donald Trump a Joe Biden.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, nad mater i Donald Trump oedd dweud pryd y dylai pleidleisiau stopio cael eu cyfrif a bod yn “rhaid i’r Arlywydd nesaf fod yn ddewis rhydd a theg gan bobl America”.
Mewn sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Tachwedd 4), gofynnodd Keir Starmer i Boris Johnson: “Beth bynnag fo’r canlyniad, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddweud nad mater i ymgeisydd yw penderfynu pa bleidleisiau sy’n cyfrif na phryd i roi’r gorau i gyfrif.”
Atebodd y Prif Weinidog: “Dydyn ni ddim am wneud sylwadau fel Llywodraeth y DU ar brosesau democrataidd ein ffrindiau a’n cynghreiriaid.”
“Rhaid i ni fod yn amyneddgar”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab: “Rhaid i ni fod yn amyneddgar ac aros i weld pwy sy’n ennill etholiad yr Unol Daleithiau.”
“Mae’n bwysig bod y broses yn cael digon o amser i ddod i gasgliad, ond mae gennym hyder llwyr yn system yr UDA i gynhyrchu canlyniad,” ychwanegodd.
Yn gynharach, roedd yr Ysgrifennydd Tramor wedi dweud na fyddai’n cael ei “dynnu i mewn” i’r ddadl ynghylch sylwadau Donald Trump.
Y Berthynas Arbennig
Mynnodd Dominic Rabb y bydd perthynas arbennig y DU â’r UDA yn goroesi pwy bynnag sy’n ennill yr etholiad.
Mae Donald Trump wedi bod yn gefnogwr brwd i Brexit a’r posibilrwydd o gytundeb masnach rhwng y DU a’r UDA, ond mae’n debyg y byddai gweinyddiaeth Joe Biden llai brwdfrydig.
Mae Joe Biden wedi beirniadu’r Llywodraeth yn gyhoeddus am ei gynllun i chwalu’r cytundeb ymadael o ran Brexit, a thorri cyfraith ryngwladol dros brotocol Gogledd Iwerddon.