Wythnos nesaf bydd Cyngor Sir Powys yn ystyried dechrau cyfnod ymgynghori i newid iaith ysgol ym Machynlleth.

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol ddwy ffrwd sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg i ddisgyblion 4 i 18 oed ar ddau safle yn y dref.

Mae’r cyngor yn bwriadu newid darpariaeth iaith yr ysgol fel y byddai’n dod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.

Cynigir bod y newid yn cael ei gyflwyno gam wrth gam, flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda dosbarth derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.

Golygai hyn na fyddai’r newid yn effeithio ar ddisgyblion sydd eisoes yn yr ysgol.

Ymgynghori yn hollbwysig

Mae’r Cynghorydd Annibynnol, Michael Williams, sy’n cynrychioli’r dref yn awyddus i weld proses ymgynghori eang gyda rhieni a’r gymuned leol ehangach.

“Mae ymgynghori yn hanfodol, boed hynny yn ymwneud ag ysgol neu unrhyw wasanaeth arall yn yr ardal”, meddai wrth golwg360.

“Yn yr achos yma mae’n holl bwysig ymgynghori gyda rhieni presennol, rhieni meithrin a’r cylch, a’r gymuned ehangach ym Machynlleth a Dyffryn Dyfi.

“Wrth gwrs fel Cynghorydd Machynlleth mi fydda i’n ystyried holl farn rhieni Machynlleth, ond er na fyddaf yn diystyru barn yr ardal ehangach mi fydda i’n gwrando ar safbwyntiau’r bobol rydw i’n eu cynrychioli.”

Bu gwrthwynebiad lleol i newid iaith yr ysgol yn 2018 – yn rhannol oherwydd y diffyg ymgynghori –  arweiniodd hyn at y cyngor yn cefnu ar y cynlluniau.

Nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg Saesneg wedi gostwng

Yn ôl Cyngor Sir Powys mae gostyngiad wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg ar y campws cynradd ac uwchradd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r nifer isel o ddisgyblion cyfrwng Saesneg yn her i Ysgol Bro Hyddgen, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo.

“Un o amcanion ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol.

“Er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn, rydym am symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith.

“Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gyfrannu felly at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Bydd y Cynghorydd Phill Davies yn gofyn i’r Cabinet ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar Dachwedd 10.

Cynlluniau’r ysgol newydd

‘Proses synhwyrol’

Eglurodd Elwyn Vaughan, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen, sydd hefyd yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor fod yr ymgynghoriad yn rhan o “broses synhwyrol fyddai’n sicrhau dwyieithrwydd i bawb yn lleol.”

“Ar ddiwedd y dydd beth mae pobol eisiau yw’r addysg gorau posib i bawb, a sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle,” meddai wrth golwg360.

Ychwanegodd bod yr ymgynghoriad yn dod law yn llaw â datblygiadau i adeiladu ysgol newydd ar y campws.

Ar ôl i Ysgol Gynradd Machynlleth ac Ysgol Bro Ddyfi uno i greu’r ysgol pob oed yn 2014, sicrhaodd Cyngor Sir Powys £23.2m gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ysgol newydd.

Ond cafodd y cynllun ei ohirio wedi i gwmni adeiladu Dawnus fynd i’r wal yn 2019.

Bellach mae’r cyngor wedi cyflwyno cais am bron i £32.4m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect sydd yn costio £48.25m.

“Yn amlwg mae’r dewis yma yn amserol o ran y cynlluniau i ailadeiladu’r ysgol, ond bydd newid i unrhyw ddarpariaeth yn rhywbeth graddol – y bwriad yw newid fesul blwyddyn o’r cyfnod derbyn i fyny”, meddai Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen.

“Dydy hyn ddim yn chwyldro dros nos mae’n rhywbeth graddol dros amser.”