Nid yw cadw ffrwd Saesneg ar agor mewn ysgol ym Machynlleth am niweidio cynllun Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dyna farn cynghorydd sir lleol, er bod Llywodraeth Cymru am gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg Gymraeg fel ffordd o gyrraedd y miliwn.

Gydag adnoddau’n brin ac oherwydd diffyg galw, roedd llywodraethwyr wedi bwriadu cau ffrwd Saesneg Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Ond yn dilyn cyfarfod neithiwr, mae’r bwrdd wedi datgan y byddan nhw’n cefnu ar y cynllun oherwydd “pryderon” y gymuned.

Mae’r Cynghorydd Annibynnol, Michael Williams, yn “falch” â’r penderfyniad, ac yn ffyddiog na fydd yn cael effaith ar addysg Gymraeg yn y dre’.

“Mae adnoddau’n brin,” meddai wrth golwg360. “Ond, dyna yw’r sefyllfa yng ngweddill ysgolion Cymru. A thrwy weddill y Deyrnas Unedig, dw i’n tybio.

“Dw i ddim yn credu bydd y ffrwd Gymraeg yn dioddef … Dw i ddim yn credu bydd hyn yn tanseilio [targedau’r Llywodraeth] o gwbwl.”

Rhieni

Ategodd y cynghorydd sir bod pob un o’r rhieni sydd wedi siarad ag ef, wedi cyfleu pryderon am y cynlluniau – yn enwedig am y diffyg ymgynghori, meddai, tros y mater.

Ac yn ôl Michael Williams, mae rhieni yn awyddus i gael yr “opsiwn” o fedru anfon eu plant i ffrwd Saesneg,  oherwydd bod dysgu trwy’r Saesneg yn “haws”.

“Mae llawer o deuluoedd di-Gymraeg, yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn Cymru, yn amlwg. Felly mae llawer o deuluoedd di-Gymraeg yn rhoi eu plant yn meithrin Cymraeg.

“Ond, wrth iddyn nhw gyrraedd ysgol uwchradd, mae’r plant yn ei chael hi’n haws i ddysgu trwy’r Saesneg. Dyna mae rhieni yn dweud wrtha i. Achos iaith y cartref yw’r Saesneg.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

“Dw i’n obeithiol y bydd yr ysgol yn troi yn un gyfan gwbl Gymraeg yn y pen draw,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd Grwp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Wedi’r cwbwl, mae’r cyngor newydd wneud addewid clir i symud yr ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol yn ei gynllun addysg Gymraeg.

“Mae’r newidiadau hyn yn hanfodol os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gyrraedd ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg – sydd â chefnogaeth eang ymysg y cyhoedd ac ar draws y pleidiau.

“Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ar oedran ifanc, yn allweddol; ac yn sicrhau bod disgyblion yn gwbwl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Ymateb Llywodraeth Cymru 

“Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgolion gan eu bod nhw yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniad yn seiliedig ar anghenion lleol,” meddai llefarydd.