Mae’r Iseldiroedd ac Awstralia yn dal Rwsia i gyfrif yn gyfreithiol am saethu awyren Malaysia Airlines MH17 o’r awyr.

Cafodd yr awyren ei saethu tra yn hedfan dros ddwyrain y Wcráin, yn ystod y gwrthdaro rhwng y wlad a’i chymydog dros bedair blynedd yn ôl, gan ladd pob un o’r 298 o bobol oedd arni.

Ddoe [24 Mai], fe gyhoeddodd ymchwilwyr rhyngwladol fod y taflegryn a gafodd ei ddefnyddio i lorio’r awyren <https://golwg360.cymru/newyddion/rhyngwladol/520473-taflegryn-rwsia-gyfrifol-lorio-awyren-mh17> oedd yn teithio o Amsterdam i Kuala Lumpur, wedi dod o uned filwrol yn Rwsia.

Dywed gweinidog tramor yr Iseldiroedd, Stef Blok, fod y “llywodraeth bellach yn cymryd y cam nesaf drwy ddal Rwsia i gyfrif yn swyddogol”.

Ychwanegodd fod yr Iseldiroedd ac Awstralia wedi gofyn i drafod gyda Rwsia er mwyn dod o hyd i ateb “a fyddai’n gwneud cyfiawnder â’r dioddefaint a’r niwed sylweddol” ddaeth yn sgil y gyflafan.

Mae Rwsia yn gwadu cael unrhyw beth i’w wneud gyda’r saethu ar 17 Gorffennaf 2014.