Mae Donald Trump yn dweud ei fod e’n barod i droi at y Goruchaf Lys i honni “twyll enfawr” yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Fe fu’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif dros nos ac ar hyn o bryd, y Democratiaid sydd ar y blaen o 220 i 213 wrth i’r arlywydd a’i wrthwynebydd Joe Biden anelu am 270 i ennill y ras.

Mae sawl talaith allweddol i ddod, a chael a chael fydd hi yn y pen draw, yn ôl y polau piniwn.

Mae Trump a Biden ill dau yn dweud eu bod nhw’n hyderus o ennill y ras, gyda phleidleisiau post mewn sawl talaith heb eu cyfri eto.

‘Fe wnaethon ni ennill yr etholiad hwn’

“Mae hyn yn dwyll ar y cyhoedd Americanaidd, mae hyn yn embaras i’n gwlad,” meddai’r arlywydd sy’n ceisio ail dymor wrth y llyw.

“Roedden ni’n paratoi i ennill yr etholiad hwn – yn blwmp ac yn blaen, fe wnaethon ni ennill yr etholiad hwn.

“Felly ein nod nawr yw sicrhau gonestrwydd er lles y genedl hon.

“Mae hon yn eiliad fawr.

“Mae hyn yn dwyll enfawr ar ein cenedl.

“Rydyn ni am i’r gyfraith gael ei defnyddio mewn modd priodol.

“Felly byddwn ni’n mynd i Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau, rydyn ni am i’r holl bleidleisio ddod i ben.

“Dydyn ni ddim am iddyn nhw ddod o hyd i unrhyw bleidleisiau am 4 o’r gloch y bore a’u hychwanegu nhw at y rhestr.”

Arizona a Pennsylvania

Ymhlith y taleithiau allweddol mae Arizona a Pennsylvania, a’r disgwyl yw na fydd y canlyniadau ar gael am beth amser.

Mae Donald Trump yn awyddus i bleidleisiau post ddod i ben, yn bennaf am eu bod nhw fel arfer o fudd i’r Democratiaid.

Mae’n dweud y byddai’n “braf” ennill yn Arizona ond y gall ennill y ras hebddi.

“Dydyn ni ddim hyd yn oed ei hangen hi,” meddai.

“Mae’n dalaith y byddai wedi bod yn braf ei chael, Arizona, ond mae yna bosibilrwydd, posibilrwydd da hyd yn oed, mewn gwirionedd, ers i fi weld mae hynny wedi cael ei newid ac mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol, mewn nifer fach o bleidleisiau.

“Dywedodd fod y Gweriniaethwyr ar y blaen yn Pennsylvania “o gryn dipyn”, gan ychwanegu y bydd hi “bron yn amhosib” i Joe Biden ei ddal.

“Rydyn ni’n ennill Michigan,” meddai wedyn.

Datganiad

Mewn datganiad swyddogol gan y Tŷ Gwyn, dywedodd fod y Gweriniaethwyr “yn paratoi am ddathliad mawr”.

“Roedden ni’n ennill popeth ac yn sydyn, fe gafodd ei ganslo.

“Roedden ni i gyd yn barod i fynd allan a dathlu rhywbeth oedd mor hardd, mor dda, y fath bleidlais, y fath lwyddiant.

“Mae trigolion y wlad hon wedi dod allan yn eu heidiau sy’n record, mae hyn yn record, fu yna’r fath beth erioed, i gefnogi ein mudiad anhygoel.”

Dywedodd ei bod hi’n “glir” ei fod e hefyd wedi ennill yn Georgia, gan ddarogan cynnydd o 2.5% yn y bleidlais.

“Dydyn nhw byth yn mynd i’n dal ni,” meddai wedyn, gan ychwanegu ei fod e’n “amlwg” wedi ennill yng Ngogledd Carolina.

“Fe wnaeth miliynau a miliynau o bobol bleidleisio drosom ni heno,” meddai wedyn.

“Mae criw trist iawn o bobol yn ceisio tynnu grym oddi ar y criw hwn o bobol a wnawn ni ddim goddef hynny.”Wnawn ni ddim goddef hynny.”