Mae’r Democratiaid wedi wfftio awgrym Donald Trump ei fod e wedi ennill etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Mae e wedi beirniadu’r broses etholiadol gan fygwth troi at y Goruchaf Lys i wrthwynebu’r canlyniad ar sail “twyll”.

Ond mae Alexandria Ocasio-Cortez, sy’n cynrychioli Efrog Newydd, wedi ei feirniadu.

“Mae honiadau cynamserol Donald Trump am fuddugoliaeth yn annilys, yn beryglus ac yn awdurdodaidd,” meddai ar Twitter.

“Cyfrwch y pleidleisiau.

“Parchwch y canlyniadau.”

Un arall sydd wedi ei feirniadu yw Ilhan Omar, aelod o’r Gyngres ym Minnesota, sydd wedi ei gymharu ag “unbennau Somalia”.

“Deffrwch, mae e’n dinistrio popeth sy’n ein gosod ni ar wahân.

“Rydyn ni’n anfon goruchwylwyr etholiadau i mewn i wledydd eraill, ddylai ddim bod angen monitro ein rhai ni.”