Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi bod 30 o farwolaethau eraill wedi eu cofnodi yn ysbytai’r bwrdd iechyd, a’r rheiny’n gysylltiedig â chlwstwr o achosion o’r coronafeirws.

Fis diwethaf, bu’n rhaid cyfyngu gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg dros dro oherwydd cynnydd mewn achosion o Covid-19.

Cyfanswm nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r clwstwr fis diwethaf oedd 99.

Roedd 51 o’r rheiny yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, 20 yn Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, 22 yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chwech yn Ysbyty Maesteg.

Mae 469 o achosion o’r feirws wedi’u cysylltu â’r clwstwr o achosion o fewn ysbytai y bwrdd iechyd hyd yma.

Sylwadau’r Gwasanaeth Iechyd

Cadarnhaodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru fod bron i 200 o achosion o’r croronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn deillio o glystyrau o fewn ysbytai yng Nghymru.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 3), eglurodd fod “darparu gwasanaethau arferol mewn amgylchedd lle mae’r coronafeirws yn lledu yn anodd iawn”.

Mae 1,275 o gleifion sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd – 18% yn uwch na’r wythnos ddiwethaf.

Golyga hyn fod un o bob chwech o bobol mewn gwelyau ysbyty yno oherwydd y coronafeirws – dim ond 9% yn is na’r uchafbwynt ym mis Ebrill.