Mae unigolyn o Lundain wedi colli her gyfreithiol yn yr Uchel Lys ar ôl cwyno am y ffordd aeth Heddlu Durham ati i ymchwilio i droseddau honedig gan Dominic Cummings, prif ymgynghorydd Boris Johnson.

Fe wnaeth e yrru 260 milltir o Lundain i Durham ym mis Mawrth i aros ar fferm ei rieni yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a hynny ar ôl i’w wraig, y newyddiadurwraig Mary Wakefield, brofi symptomau’r coronafeirws.

Mewn cynhadledd i’r wasg yng ngardd Downing Street wedyn, fe ddywedodd ei fod yn gwarchod iechyd ei deulu wrth gwblhau’r daith.

Dywedodd hefyd iddo deithio i Barnard Castle, 25 milltir i ffwrdd, i brofi ei olwg cyn gyrru – ar ddiwrnod pen-blwydd ei wraig.

Roedd e wedi gwrthod ymddiheuro, gan gyfiawnhau ei ymddygiad “rhesymol o dan yr amgylchiadau”, cyn ychwanegu nad oedd yn “difaru”.

Daeth Heddlu Durham i’r casgliad ei fod e, o bosib, wedi cyflawni trosedd ond nad oedd diben gweithredu wedi’r digwyddiad.

Her gyfreithiol

Ceisiodd Martin Redston o Lundain gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Max Hill, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, ar ôl honni iddo fethu ag ymchwilio i droseddau posib gan Dominic Cummings.

Mewn gwrandawiad heddiw, mae Michael Mansfield QC wedi dweud bod diffyg craffu ar ei ymddygiad “yn tanseilio’r parch at reol y gyfraith”.

Fe ofynnodd hefyd “a oedd yr un fu’n deddfu wedi torri’r ddeddf mae e wedi ei chreu neu wedi helpu i’w chreu?”

Dywedodd fod Dominic Cummings wedi cyflawni o leiaf un drosedd, ond nad oedd yr heddlu wedi ystyried bod gadael ei gartref yn Llundain yn y lle cyntaf yn drosedd.

Ychwanegodd ei fod e wedi diystyrru’r gyfraith wrth deithio i’r gwaith yn ddiweddarach ar Fawrth 27, er bod gan ei wraig symptomau’r feirws.

Mae e hefyd wedi cyhuddo’r Twrnai Cyffredinol Suella Braverman a’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel o’i “gefnogi’n gyhoeddus â rhagfarn” wrth drydar ym mis Mai.

Dadleuon y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Dywedodd cyfreithiwr ar ran y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus nad oedden nhw wedi penderfynu peidio â’i erlyn nac wedi dewis peidio â throsglwyddo’r mater i’r heddlu, ac y dylid gwrthod yr her gyfreithiol.

Mae disgwyl i’r barnwyr gyflwyno’u rhesymau dros wrthod yr her gyfreithiol cyn diwedd yr wythnos.

Dywed Martin Redston ei fod e’n “siomedig iawn” ac mai ei fwriad oedd “sicrhau bod Dominic Cummings yn cael ei erlyn am dorri rheolau’r coronafeirws”.

Dywedodd y byddai’n ystyried sut i symud yr achos yn ei flaen yn dilyn y datblygiadau diweddaraf.