Mae angen bod yn wyliadwrus o’r cynlluniau a chymorth tymor byr sy’n cael eu darparu i bobol ifanc drwy’r Llywodraeth yn ystod cyfnod mor ddyrys, yn ôl Steffan Williams, pennaeth gwasanaeth GISDA yng Nghaernarfon.

Mae’n dweud bod angen edrych ar y “pictiwr mawr” gan sicrhau bod modd i bobol ifanc gynllunio ar gyfer eu dyfodol a symud ymlaen wedi i’r cyfnod hwn ddod i ben.

Daw’r drafodaeth yn dilyn pryderon bod y coronafeirws yn gwthio pobol yn ddyfnach i dlodi, yn ôl adroddiad diweddaraf Sefydliad Joseph Rowntree.

‘Mae’n mynd i fod yn amser ofnadwy o anodd i bobol ifanc’

“Mae ’na lot o bethau mewn lle ar hyn o bryd gan Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru,” meddai Steffan Williams wrth golwg360.

“Ond pan fydd rheini yn cael eu tynnu yn ôl, yn anffodus dwi’n amau mi fydd ‘na spike o ran y bobol ifanc sydd angen ein gwasanaeth ni.”

Cafodd y pryderon hyn eu hategu yn yr adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Eglura Steffan Williams ei bod hi’n “mynd i fod yn amser ofnadwy o anodd i bobol ifanc,” a bod “yna bobol rŵan sydd yn disgyn i mewn i dlodi, sydd erioed wedi o’r blaen”.

Pryder ynglŷn â’r dyfodol

Yn ôl Steffan Williams, effaith niweidiol y sefyllfa ar iechyd meddwl pobpl ifanc yw un o’r prif bryderon.

“O ran y bobl ifanc ‘da ni yn gweithio hefo, ‘da ni’n gweld lot yn siarad am eu hiechyd meddwl yn cael eu heffeithio – gorbryder, iselder a hefyd unigrwydd – sydd yn rhywbeth mawr, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo,” meddai.

Eglura fod cyswllt wyneb yn wyneb yn rhywbeth y mae llawer o bobol ifanc yn ei golli’n fawr.

“Maen nhw’n bryderus ynglŷn â be ydi’r camau nesaf a be sy’n mynd i ddigwydd ar ôl hyn. Mae ‘na lot mewn limbo ar hyn o bryd,” meddai wedyn.

“Maen nhw’n poeni am y dyfodol a dyna ’dan ni’n trio gwneud yn GISDA ydi ehangu ein gwasanaeth.

“Yn symud ymlaen, ’dan ni am drio helpu’r bobol ifanc i’w cael nhw’n barod ar gyfer y camau nesaf, wedi’r coronafeirws.”

Angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y “pictiwr mawr”

Dywed fod “yna bob tro le i wella” ar y cymorth mae pobol ifanc yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.

“Mae ‘na lot o bethau allan yna ond be ’dan ni yn ei weld ydi bod lot ohonyn nhw yn bethau tymor byr a dyna ydi’r broblem,” meddai.

“Beth sydd angen edrych ar ydi’r tymor hir ar y pictiwr mawr. Sut yda ni’n mynd i allu helpu pobl ifanc i symud ymlaen ar ôl hyn?

“Dyna sy’n bwysig ac ella rhywbeth dydi Llywodraeth Cymru ddim wedi edrych arno eto yn fanwl.”

“Colli cenhedlaeth gyfan i dlodi”

“Y pryder ydi nad ydi effaith Covid wedi hitio ni eto o ran cyflogaeth a thlodi ac mae ‘na tipyn o gymorth yn dŵad o wahanol Lywodraethau ac asiantaethau ar hyn o bryd a be sy’n berig ydi bod hynny’n cuddio’r gwir sefyllfa,” meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd.

“Y peryg ydi’n bod ni am golli cenhedlaeth gyfan i dlodi ac mae hynny’n ddychrynllyd o ddarlun.”