Bydd y coronafeirws yn gwthio pobol yn ddyfnach i dlodi, yn ogystal ag achosi i eraill fethu ag ymdopi, yn ôl yr adroddiad newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree

Mae’r adroddiad yn dangos fod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi ac yn byw bywydau ansicr ac ansefydlog, hyd yn oed cyn pandemig y coronafeirws.

Mae’r sefydliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gwaith, nawdd cymdeithasol a thai.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio bod gormod o fesurau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhai dros dro.

Dywed os bydd cynlluniau ffyrlo a’r cynnydd dros dro mewn budd-daliadau yn cael eu tynnu’n ôl, bydd tlodi’n uwch.

“Cymorth hanfodol”

“Mae llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ardaloedd a phobl sy’n cael eu taro galetaf gan dlodi neu’r coronafeirws, yn ogystal â symbylu camau gweithredu gan gyflogwyr, darparwyr tai a gwasanaethau cyhoeddus lleol,” meddai’r adroddiad.

“Drwy wneud hynny, gallwn adeiladu ar sut yr ydym wedi ymateb fel cymdeithas i wynebu heriau’r coronafeirws.

“Mae’n briodol ac yn angenrheidiol gwneud yr un peth yn awr i sicrhau bod lefelau tlodi’n dechrau gostwng, a bod y rhai sydd ar incwm isel, sy’n cael eu heffeithio waethaf gan argyfwng economaidd coronafeirws, yn gweld eu bywydau’n gwella drwy gael cymorth hanfodol.

“Mae camau penodol yr ydym yn cynghori Llywodraeth Cymru i’w cymryd i helpu i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gwaith, nawdd cymdeithasol a thai.”

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Datblygu cynnig gofal plant newydd yn seiliedig ar ddarpariaeth ddi-dor i blant o bob oed ac edrych ar opsiynau i gynyddu darpariaeth gofal plant fforddiadwy cyn ysgol, ar ôl ysgol a gofal plant yn ystod gwyliau i blant o oedran ysgol i 14 oed..
  • Canolbwyntio ei strategaethau economaidd ar greu a chadw swyddi yn ardaloedd Cymru lle mae’r economïau lleol gwannaf a’r rhai sy’n cael eu taro gwaethaf gan y pandemig, gan gynnwys cymoedd y de a’r Gymru wledig.
  • Ystyried rhinweddau cynigion Sefydliad Bevan i wella a dwyn ynghyd y grantiau a’r lwfansau datganoledig presennol mewn ‘System Fudd-daliadau Cymru’ gydlynol ac effeithiol.
  • Adeiladu 20,000 o gartrefi fydd ar gael i’w rhentu’n gymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.
  • Sicrhau bod rhenti cymdeithasol yn fforddiadwy drwy sicrhau nad yw rhenti’n fwy na chyflogau na budd-daliadau.

Angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig “barhau i ddangos tosturi”

Dywedodd yr adroddiad: “O ran gweithredu gan Lywodraeth y DU, mewn cyfnod pan fo arnom angen sicrwydd a sefydlogrwydd, yn wyneb ton o ddiweithdra, cyfyngiadau a chaledi, mae cadw’r codiad o £20 i Gredyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith a’i ymestyn i deuluoedd ar fudd-daliadau etifeddol yn hollbwysig.

“Bydd cadw’r cymorth hanfodol yn golygu bod llawer o deuluoedd yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd; bydd ei ddileu’n golygu y bydd llawer o deuluoedd methu ag ymdopi.

“Dylai Llywodraeth y DU barhau i ddangos tosturi a chymryd camau beiddgar i gryfhau nawdd cymdeithasol a chefnogi ein cymdeithas.”