Mae Plaid Brexit wedi gwneud cais i’r Comisiwn Etholiadol i newid enw’r blaid i Reform UK.
Bydd y blaid nawr yn ehangu ei agenda i gynnwys ymateb i’r coronafeirws.
Eglurodd Nigel Farage, arweinydd Reform UK, fod y blaid yn gwrthwynebu y clo cenedlaethol newydd fydd yn dod i rym yn Lloegr ddydd Iau, Tachwedd 5.
“Bydd y clo cenedlaethol newydd yn arwain at golli mwy o fywydau nag y mae’n gobeithio ei arbed”, meddai.
“Bydd triniaethau cleifion sydd â chanser, problemau cardiaidd, ysgyfaint ac afiechydon eraill yn cael eu gohirio neu eu canslo eto.
“Mae hunanladdiadau ar gynnydd hefyd ac mae busnesau a swyddi’n cael eu dinistrio.”
Tra’n ymgyrchu gyda’r Arlywydd Trump yn ddiweddar disgrifiodd Nigel Farage yr Arlywydd fel y “dyn dewraf dw i erioed wedi ei gyfarfod” ar ôl iddo wella o’r coronafeirws.
Ychwanegodd Cadeirydd Reform UK, Richard Tice, mai strategaeth y blaid yw y dylai pobol “ddysgu byw gyda’r feirws, nid cuddio rhagddo.”
Gadael yr Undeb Ewropeaidd
“Fel rydym eisoes wedi addo, rydym yn parhau i gadw llygad barcud ar drafodaethau masnach y Llywodraeth â’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau Brexit addas”, meddai Nigel Farage.
“Mae diwygio pellach mewn llawer o feysydd eraill hefyd yn hanfodol ar gyfer dyfodol ein cenedl.”
Er i Blaid Brexit ymgeisio mewn 275 o seddi yn etholiad cyffredinol 2019 ni lwyddodd y blaid i ethol un Aelod Seneddol.
Mae pedwar o aelodau Plaid Brexit yn y Senedd wedi gadael y blaid.
Mae’r cyn-arweinydd Mark Reckless wedi ymuno â ‘Phlaid Diddymu’r Cynulliad’ ac mae’r gweddill – Caroline Jones, Mandy Jones, a David Rowlands – wedi sefydlu eu plaid eu hunain.