Mae dwy ferch wedi cael eu hachub o rwbel adeilad yn ninas Izmir yn Nhwrci, dri diwrnod ar ôl daeargryn yno.

Mae nifer y meirw wedi’r daeargryn ddydd Gwener bellach wedi cyrraedd 87 ar ôl i dimau achub ddarganfod rhagor o gyrff yn y rwbel dros nos.

Daeth timau achub o hyd i Idil Sirin, 14 oed, yng ngweddillion bloc o fflatiau ar ôl iddi fod yn gaeth am 58 awr. Yn ôl adroddiadau, nid oedd ei chwaer wyth oed, Ipek, wedi goroesi.

Rai oriau’n ddiweddarach cafodd plentyn arall Elif Perincek, 3 oed, ei hachub. Roedd ei mam a’i dwy chwaer wedi cael eu hachub ddeuddydd cyn i dimau achub ddod o hyd iddi. Mae 106 o bobl bellach wedi cael eu hachub yn fyw o’r rwbel, yn ôl asiantaeth newyddion Anadolu Agency.

Cafodd o leiaf mil o bobl eu hanafu yn y daeargryn, oedd a’i ganolbwynt i’r gogledd ddwyrain o Ynys Samos yng Ngwlad Groeg. Cafodd dau berson eu lladd yn Samos ac o leiaf 19 o bobl eraill eu hanafu ar yr ynys.

Credir bod y daeargryn yn mesur hyd at 7.0.