Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n parchu’r “fargen” i ddod a’r cyfnod clo i ben yr wythnos nesaf.
Dywedodd Mark Drakeford fod ei benderfyniad i osod clo 17 diwrnod “byr a llym” yng Nghymru yn golygu nad oes angen ymestyn y cyfnod ar ôl Tachwedd 9.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog y Derynas Unedig, Boris Johnson gyhoeddi bydd clo cenedlaethol yn dod i rym yn Lloegr ddydd Iau.
Fe fydd Mark Drakeford yn amlinellu manylion y mesurau newydd fydd yn dod i rym wedi’r cyfnod clo yng nghynhadledd y wasg bnawn dydd Llun.
“Rydym wedi taro bargen gyda phobol Cymru ar Hydref 23 y bydd hwn yn gyfnod cloi byr a llym am 17 diwrnod yn unig”, meddai wrth BBC Radio Wales.
“Dydw i ddim yn bwriadu camu’n ôl o’r fargen honno jest oherwydd bod llywodraeth wahanol wedi penderfynu gwneud rhywbeth gwahanol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig”.
Pryder y bydd pobol yn dianc o Loegr i Gymru
Fodd bynnag eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn “bryderus” y bydd pobol o Loegr yn cael eu temtio i groesi’r ffin i Gymru unwaith y bydd cyfyngiadau’n amrywio.
“Mae’n bwysig nad yw Cymru’n troi yn ddihangfa i bobol sy’n ceisio osgoi cyfyngiadau llymach yn Lloegr”, meddai Mark Drakeford.
Yn ddiweddarach, yn y gynhadledd i’r wasg, dywedodd y Prif Weinidog na fydd pobl yn Lloegr yn gallu teithio i Gymru heb esgus rhesymol yn ystod y cyfnod cloi.
“Bydd gan bobl sy’n byw yng Nghymru ond sy’n gweithio yn Lloegr reswm rhesymol dros deithio i’r gwaith, ac mae’n amlwg bod gan bobl sy’n byw yn Lloegr ac sy’n gweithio yng Nghymru esgus rhesymol dros ddod dros y ffin i weithio yma,” meddai Mr Drakeford.
“Ond bydd yn rhestr gyfyngedig o bwrpasau hanfodol, yn hytrach na’r mynd a’r dod arferol dros y ffin y byddech yn ei weld mewn cyfnod llai anodd ac anodd.”
Yn yr un modd, ni chaniateir i bobl yng Nghymru deithio y tu allan i’r wlad heb esgus rhesymol pan ddaw’r achos o gloi’r tân i ben ar 9 Tachwedd.
“Ni fydd cyfyngiadau teithio yng Nghymru ond yn ystod y cyfnod cloi mis o hyd yn Lloegr, ni chaniateir teithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Clo arall i Gymru?
“Drwy wneud popeth rydym wedi ei wneud, ac ar yr amod ein bod yn ymddwyn yn y ffordd iawn ar ôl y clo, rydym yn hyderus y gallwn fynd drwodd i’r Nadolig heb orfod mynd drwy hyn eto,” meddai.
Er hyn gwrthododd y Prif Weinidog ddiystyru clo dros dro arall eleni.
Dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gorfodi’r clo dros dro pan oedd Cymru’n dilyn y “sefyllfa waethaf resymol”, yn hytrach na mynd y tu hwnt iddi.
Dywedodd hefyd: “Y cyngor a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a’n gwyddonwyr oedd pe baem yn gweithredu’n gynnar a phe baem yn cael cyfnod o 17 diwrnod a oedd yn fyr ond yn finiog… dyna oedd ei angen arnom i’n helpu i [helpu i atal lledaeniad y firws yng Nghymru].”
“Chwarae gwleidyddiaeth”
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “chwarae gwleidyddiaeth” am beidio ag ymestyn y clo.
“Dydy Mark Drakeford bellach ddim yn dilyn gwyddoniaeth, yr awgrym gan SAGE yw cyflwyno clo estynedig ledled y Deyrnas Unedig, ond yn hytrach mae’n sôn am y ‘fargen’ a darodd gyda’r cyhoedd.
“Rwy’n gobeithio bod y feirws yn ymwybodol o’i drafodaethau.
“Mae’n amlwg mai gwleidyddiaeth nid gwyddoniaeth yw ei flaenoriaeth.”