Mae angen bod yn bwyllog wrth adael y cyfnod clo dros dro ar Dachwedd 9, yn ôl Adam Price.
Dywed arweinydd Plaid Cymru y “byddai gadael yn rhy gynnar yn peryglu unrhyw fanteision a gafwyd”.
Cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno ar Hydref 26 gyda chefnogaeth y blaid, ac fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ategu ddydd Sadwrn (Hydref 31) y byddai’r cyfnod clo dros dro yn dod i ben ar Dachwedd 9, er bod Lloegr wedi dechrau ar gyfnod clo fydd yn para tan Ragfyr 2.
Mae Adam Price hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymu i amlinellu sut maen nhw wedi manteisio ar y cyfnod clo dros dro i gryfhau’r system brofi ac olrhain yn hytrach na dibynnu ar labordai’r Deyrnas Unedig sydd “wedi methu”, meddai.
‘Dysgu gwersi’
“Rydym wedi dysgu dwy wers allweddol o’r ymateb i’r pandemig hyd yn hyn – bod mynd yn rhy hwyr i’r cyfnod clo yn cynyddu ymlediad y feirws a bod gadael yn rhy gynnar yn peryglu unrhyw fanteision a gafwyd,” meddai Adam Price.
“Dyna pam fod rhaid i’r dull o ran y cyfnod clo dros dro fod yn bwyllog.
“Yn sicr, ddylai’r cyfyngiadau teithio sy’n gywir iawn wedi atal pobol rhag dod i mewn i Gymru o gadarnleoedd Covid mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ddim cael eu dileu.
“Rydym yn gwybod na fydd unrhyw fanteision posib o’r cyfnod clo dros dro yn amlwg ar unwaith.
“Dyna pam fod rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pryd yn union y bydd yn asesu a yw’r cyfnod clo dros dro wedi bod yn llwyddiannus.
“Tan hynny, mae’n rhy gynnar i ddileu’r cyfyngiadau’n llwyr mewn ffordd sy’n achosi perygl o ailgynnau’r tân.
“Byddai’n wrthgynhyrchiol i lacio’r holl gyfyngiadau pe bai’r rhif R yn parhau’n uwch nag 1.
“Rhaid i weinidogion hefyd ei gwneud yn glir sut maen nhw wedi defnyddio’r cyfnod clo dros dro i wneud y system brofi ac olrhain yn llawer mwy cadarn, yn rhydd rhag dibyniaeth ar rwydwaith labordai goleudy y Deyrnas Unedig sydd wedi methu.
“Gallai mesurau rhagofalus wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo dros dro gynnwys cau lletygarwch am 18:00 – wedi’i gefnogi gan gefnogaeth ariannol briodol – a rhaglen o ddysgu plethedig mewn ysgolion sy’n caniatáu rota bythefnos ar gyfer disgyblion hŷn.
“Bydd dull gofalus yn arwain at ddeilliannau iechyd cyhoeddus gwell, mwy o sicrwydd i fusnesau ac yn osgoi cylch diddiwedd o gloi a datgloi.”