Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw (dydd Llun, Tachwedd 2) yn cyhoeddi cyfres o fesurau newydd i geisio atal lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.
Mae disgwyl i’r cyfyngiadau ddod i rym pan fydd yr ail gyfnod clo yn dod i ben ar Dachwedd 9, pedwar diwrnod ar ôl i Loegr ddechrau cyfnod clo am fis.
Ddydd Sul (Tachwedd 1) fe fu gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd i drafod unrhyw broblemau posib all godi ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, pan fydd Lloegr yn dechrau’r cyfnod clo ddydd Iau (Tachwedd 5).
“Lleihau cysylltiad â phobl eraill”
Mae disgwyl i Mark Drakeford bwysleisio heddiw bod ymddygiad y cyhoedd yn bwysicach na’r rheolau a’r cyfyngiadau sydd wedi cael eu rhoi mewn lle gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y prif weinidog yn amlinellu manylion y mesurau newydd yng nghynhadledd y wasg bnawn dydd Llun.
“Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i leihau dod i gysylltiad a’r firws drwy gael llai o gysylltiad gyda phobl eraill – yn y cartref, ein gwaith a phan ry’n ni’n mynd allan,” meddai Mark Drakeford cyn y cyhoeddiad.
Daeth y cyfnod clo diweddaraf i rym ar Hydref 23 mewn ymdrech i ddod a’r firws o dan reolaeth, gyda gweinidogion yn dweud y gallai gymryd tua phythefnos cyn i’r mesurau ddechrau cael effaith ar nifer yr achosion dyddiol o Covid-19.
“Symlach”
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud bod angen dod allan o’r cyfnod clo yn “araf ac yn bwyllog.”
Roedd 17 o gyfyngiadau lleol mewn grym yng Nghymru cyn i’r ail gyfnod clo ddechrau ond dywedodd Mark Drakeford y byddai cyfres o fesurau cenedlaethol “symlach” yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod yma.
Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyfaddef nad oedd y cyfyngiadau lleol “wedi gweithio’n ddigon da” i atal lledaeniad y firws.
Mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd ddydd Gwener dywedodd: “Fe fyddwn ni’n cyflwyno cyfres o reolau symlach sy’n haws i bawb eu deall, i helpu i’n cadw ni’n ddiogel a’r firws o dan reolaeth.”