Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn rhybuddio Aelodau Seneddol y gallai nifer y marwolaethau dros y gaeaf fod ddwywaith yn uwch nag yn ystod ton gyntaf y pandemig pan fydd yn amlinellu cynlluniau ar gyfer ail glo cenedlaethol.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud nad oes “dim dewis arall” ond gosod pedair wythnos o gyfyngiadau llym ledled Lloegr i reoli achosion cynyddol.

Daw hyn wedi dryswch ynghylch yr angen i barhau gyda’r mesurau y tu hwnt i Ragfyr 2, ar ôl i Weinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, gyfaddef efallai y bydd angen ymestyn y cyfnod clo.

Cafodd y Prif Weinidog ei orfodi i gyhoeddi’r clo, sy’n dod i rym ddydd Iau (Tachwedd 5), mewn cynhadledd frys i’r wasg yn Stryd Downing dros y penwythnos ar ôl i’r manylion gael eu datgelu i bapurau newydd.

Bydd tafarndai, bariau, bwytai, a siopau nad ydynt yn gwerthu nwyddau hanfodol, ynghau am bedair wythnos, ond bydd ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn aros ar agor.

Bydd pobl hefyd yn cael ymarfer corff a chymdeithasu mewn mannau cyhoeddus awyr agored gyda’u haelwyd neu un person arall.

“Nid oes dewis arall”

Mae disgwyl iddo ddweud: “Os na fyddwn ni’n gweithredu nawr, fe allai marwolaethau dros y gaeaf fod ddwywaith yn uwch nag yn ystod y don gyntaf.

“Yn wyneb y ffigurau diweddaraf hyn, nid oes dewis arall ond cymryd camau pellach ar lefel genedlaethol.”

Bydd ASau yn trafod ac yn pleidleisio ar y mesurau newydd ddydd Mercher (Tachwedd 4), gyda nifer o Geidwadwyr yn debygol o fynd yn groes i’r Llywodraeth.

Dywedodd y cyn-weinidog Cabinet Esther McVey y byddai’n pleidleisio’n erbyn y cyfnod clo oherwydd bod cyfyngiadau o’r fath yn “achosi mwy o niwed na Covid.”

“Cost ddynol iawn i hyn”

Dywedodd yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer y bydd ei blaid yn pleidleisio o blaid y cyfyngiadau, ond beirniadodd y Llywodraeth am beidio â chyflwyno’r mesurau’n gynt.

“Bydd y cyfnod clo nawr yn hirach, bydd yn anoddach, rydym newydd golli hanner tymor ac mae cost ddynol iawn i hyn,” meddai.