Mae’r Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd yn y ras am y Tŷ Gwyn, Joe Biden wedi dechrau eu hymdrech olaf i ddenu pleidleiswyr yn y taleithiau mwyaf ymylol cyn i’r Unol Daleithiau fwrw pleidlais.
Dydd Llun (Tachwedd 2) yw’r diwrnod llawn olaf o ymgyrchu ac mae 93 miliwn o bobl eisoes wedi bwrw pleidlais.
Mae’r ddwy ochr yn mynnu mai nhw fydd yn hawlio buddugoliaeth gyda Donald Trump yn dibynnu ar gefnogaeth gan ei gefnogwyr ffyddlon.
Ac mae Joe Biden wedi dweud bod America ar fin “dod a diwedd i arlywyddiaeth sydd wedi cynnau casineb.”
Wrth ymweld â Philadelphia, y ddinas fwyaf a allai benderfynu pwy fydd yn y Tŷ Gwyn, dywedodd ymgeisydd y Democratiaid, Joe Biden: “Pan fydd America yn cael ei chlywed, dw i’n credu bydd y neges yn glir: mae’n bryd i Donald Trump bacio ei fagiau a mynd adre.
“Ry’n ni wedi cael digon o’r anhrefn, y trydariadau, a’r casineb.”
Wrth i’r ddau ymgeisydd ddod a diwedd i’r ymgyrchu, roedd nifer yr achosion o’r coronafeirws wedi codi unwaith eto. Hyd yn hyn mae 230,000 o bobl yn yr Unol Daleithiau wedi marw o Covid-19 a bron i 20 miliwn wedi colli eu swyddi.