Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod wedi galw am gyfarfod “brys” o’r pwyllgor argyfyngau Cobra dair wythnos yn ôl, ar ôl i wyddonwyr ddweud mai cyfnod clo oedd y ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r raddfa R.
Wrth siarad ar BBC Radio 5 Live bore ma (Dydd Llun, Tachwedd 2) dywedodd Mark Drakeford: “Ysgrifennodd Prif Weinidog yr Alban y diwrnod canlynol i gefnogi’r alwad honno ond nid yw Cobra wedi cyfarfod ers hynny.
“Felly, er fy mod i’n awyddus i gydgysylltu’n well, rhannu gwybodaeth yn well, a gweithio tuag at benderfyniadau gwell, nid y gweinyddiaethau datganoledig sy’n gyfrifol am alw’r cyfarfodydd hynny, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol, ac er ein bod wedi gofyn iddyn nhw wneud wneud hynny, mae tair wythnos wedi mynd heibio ac nid yw’r cyfarfod hwnnw wedi digwydd.
“O dan yr amgylchiadau hynny, nid oes dewis arall ond i’r llywodraethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wneud y penderfyniadau sydd, yn ein barn ni, yn briodol i’n poblogaeth leol.”
“Hapus” i drafod gyda Boris Johnson
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n “hapus i drafod unrhyw agweddau” gyda Boris Johnson, pe bai’n cysylltu ag ef.
“Ond fe wnaethom fargen gyda phobl yng Nghymru pe baent yn glynu at bopeth yr ydym wedi gofyn iddyn nhw ei wneud – ac fel y dywedais, mae wedi bod yn ymdrech genedlaethol eithriadol – am 17 diwrnod, yna byddem yn gallu dychwelyd rhyw gymaint o ryddid iddyn nhw, ac nid wyf yn bwriadu camu i ffwrdd o’r fargen honno,” dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Radio 5 Live.