Mae Ryanair wedi cyhoeddi colledion o £178 miliwn yn hanner cynta’r flwyddyn gan rybuddio ei fod yn paratoi ar gyfer cyfnod “heriol iawn.”

Mae’r cwmni hedfan yn dweud ei fod yn disgwyl cyhoeddi “colledion sylweddol” yn ail hanner y flwyddyn.

Yn sgil y coronafeirws, roedd 99% o fflyd Ryanair wedi methu hedfan am bron i bedwar mis rhwng canol mis Mawrth a diwedd mis Mehefin.

Roedd nifer y teithwyr yn hanner cynta’r flwyddyn wedi gostwng bron i 80% – o 86 miliwn i 17 miliwn o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd y cwmni y gallai’r pandemig, ansicrwydd ynghylch Brexit, prisiau teithio, costau tanwydd, cystadleuaeth gan gwmnïau hedfan eraill, gweithredoedd gan lywodraethau, a pharodrwydd pobl i deithio, gael “effaith sylweddol” ar ganlyniadau Ryanair am weddill y flwyddyn.

Roedd yn feirniadol o gymorth gan lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd i gwmnïau hedfan fel Air France a Lufthansa gan ddweud y gallai hynny “effeithio cystadleuaeth” a chaniatáu i gwmnïau gynnig prisiau isel am “nifer o flynyddoedd.”