Mae’r Alban wedi cyflwyno system pum haen o gyfyngiadau coronafeirws sy’n dod i rym heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 2).

Daeth y mesurau newydd i rym am 6yb ddydd Llun gyda phob un o’r awdurdodau lleol wedi’u rhoi mewn haenau.

Mae’r lefelau yn cael eu mesur o sero i bedwar a does dim un o’r awdurdodau lleol wedi cael eu rhoi o dan y mesurau mwyaf llym ar hyn o bryd.

Mae Lefelau 1,2 a 3 yn debyg i’r haenau o gyfyngiadau sydd wedi’u gosod yn Lloegr ar hyn o bryd – cyn i’r cyfnod clo ddod i rym ddydd Iau – tra bod Lefel 0 yn debyg i’r hyn oedd mewn lle ar draws yr Alban ym mis Awst pan oedd lefelau isel o’r firws.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod y lefelau newydd “yn caniatáu i ni ymateb yn gyflym ac yn hyblyg yn ôl yr angen, yn enwedig mewn ardaloedd lle ry’n ni’n bryderus am gynnydd mewn achosion o’r firws.

“Mae’n bwysig ein bod ni gyd yn dilyn y rheolau yn ein hardal os ydym am lwyddo i atal lledaeniad y firws ac osgoi’r angen am gyfyngiadau pellach, ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd.”

“Hanfodol”

Ychwanegodd ei fod yn “hanfodol” bod pobl yn gwybod ym mha lefel mae eu hawdurdod lleol wedi’i osod a’u bod yn cadw at y rheolau yn eu hardal.

Fe fydd modd i bobl wirio eu cod post i weld ym mha awdurdod lleol maen nhw.

Mae canolbarth yr Alban, sy’n cynnwys Caeredin, Glasgow, Swydd Lanark, Stirling a Falkirk – yn ogystal â Dundee ac Ayrshire yn Lefel 3.

Mae hyn yn golygu nad yw’n bosib i bobl gymdeithasu yn eu cartrefi, gyda grwpiau tu allan mewn mannau cyhoeddus yn cael eu cyfyngu i chwech o bobl o ddwy aelwyd.

Fe fydd sinemâu, arcedau a neuaddau bingo yn cau a bydd busnesau lletygarwch yn cael eu hatal rhag gwerthu alcohol ac yn gorfod cau am 6yh.

Ychwanegodd Nicola Sturgeon: “Does neb eisiau gweld cyfyngiadau llymach ond mi alla’i sicrhau pobl, os oes angen i ni gyflwyno’r lefelau uwch o fesurau, fyddwn ni ddim yn oedi rhag gwneud hynny.”