Mae’r actor Johnny Depp wedi colli ei achos enllib yn yr Uchel Lys yn erbyn papur newydd The Sun.
Roedd yr actor 57 oed wedi dwyn yr achos yn erbyn cyhoeddwyr y papur, News Group Newspapers (NGN), a’r golygydd Dan Wootton, yn dilyn erthygl yn 2018 oedd yn honni ei fod wedi ymosod ar ei gyn-wraig Amber Heard yn ystod eu perthynas.
Wrth gyhoeddi’r dyfarniad ddydd Llun (Tachwedd 2) dywedodd Mr Ustus Nicol bod NGN wedi profi bod yr hyn oedd yn yr erthygl “yn wir i raddau helaeth.”
Roedd Johnny Depp ac Amber Heard, 34, wedi mynychu’r achos yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Gorffennaf.
Yn ystod yr achos fe glywodd y llys gan yr actor a’i gyn-wraig yn ogystal â ffrindiau a pherthnasau’r cwpl, a chyn-weithwyr.
Roedd Johnny Depp wedi gwadu ymddwyn yn dreisgar tuag at ei gyn-wraig.
Ond roedd NGN wedi amddiffyn yr erthygl gan ddweud bod Johnny Depp yn dreisgar tuag at Amber Heard “yn enwedig pan oedd o dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau” rhwng 2013 a 2016 pan oedd y cwpl wedi gwahanu.
Dywedodd llefarydd ar ran The Sun eu bod nhw wedi “ymgyrchu dros ddioddefwyr trais domestig ers mwy na 20 mlynedd.”
Mae’r papur hefyd wedi diolch i Amber Heard am ei “dewrder” wrth roi tystiolaeth yn y llys.