Mae Yes Cymru wedi mynd y tu hwnt i’r targed o 10,000 o aelodau heddiw (dydd Sul, Tachwedd 1).

Yn ôl y mudiad, roedden nhw wedi denu dros 1,000 o aelodau newydd dros y 24 awr diwethaf erbyn iddyn fwrw’r targed.

Roedd ganddyn nhw 2,300 o aelodau ar ddechrau’r flwyddyn.

Maen nhw bellach wedi gosod targed newydd o 25,000 o aelodau.

“Fe ddaru ni chwalu’r nod gwreiddiol o 10,000” meddai neges ar eu gwefan.

“Felly ’dyn ni wedi gosod nod newydd.”