Mae ffrae yn corddi rhwng Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, a Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru ynghylch y cynllun ffyrlo.

Mae Mark Drakeford wedi beirniadu’r Trysorlys am ymestyn y cynllun wrth i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi cyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr rhwng Tachwedd 5 a Rhagfyr 2, ar ôl iddyn nhw wrthod ymestyn y cynllun i weithwyr yn sgil y cyfnod clo dros dro yng Nghymru a’r system haenau yn yr Alban.

Ond mae’n ymddangos bod yna anghydweld ynghylch pa gynllun roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gael ei ymestyn, gyda Mark Drakeford yn dweud ei fod e wedi gofyn am gael ymestyn y cynllun ffyrlo, sef y cynllun gwreiddiol.

Ond mae Simon Hart wedi trydar copi o lythyr Mark Drakeford at Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, sy’n cyfeirio at ymestyn y Cynllun Cymorth Swyddi, y cynllun sydd wedi disodli’r ffyrlo blaenorol.

Mae’n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael sicrwydd y bydd cyflogwyr yng Nghymru’n gymwys ar gyfer y cynllun a’u bod nhw am “barhau ar y sail hwnnw”.

Ymateb Simon Hart

“Mae’r cynllun ffyrlo wedi amddiffyn 400,000 o swyddi ledled Cymru a bydd yn parhau nawr tan Ragfyr,” meddai Simon Hart wrth ymateb i’r neges ar Twitter.

“Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim gofyn am ymestyn ffyrlo, wnaethon nhw ofyn am gael dod â chynllun arall ymlaen ar ôl cael gwybod eisoes fod hynny’n amhosib.

“Mae’n ffuantus. Gweithiwch gyda ni, Mark?”

‘Ffeithiau’n anghywir’

Mae Llywodraeth Cymru wedi taro’n ôl, gan gyhuddo Simon Hart o gael ei “ffeithiau’n anghywir”.

“Yn anffodus, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n anghywir.

“Rydym wedi galw dro ar ôl tro am ymestyn y cymorth ariannol i gefnogi gweithwyr a busnesau yng Nghymru.

“Gwnaethom hefyd gyfres o gynigion rhesymol iawn i Trysorlys am Cynllun Cadw Swyddi a Cynllun Cefnogaeth Swyddi i amddiffyn busnesau Cymru cyn i’n Cyfnod atal y coronafeirws cychwyn.

“Gwrthodwyd pob un ohonynt gan y Canghellor.”