Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn wynebu gwrthdystiad meinciau cefn yn sgil y cyfnod clo sydd wedi’i gyhoeddi yn Lloegr – wrth i un sy’n bwriadu gwrthdystio ddweud ei bod yn “anodd credu” bod pandemig ar y gweill ac y bydd y canlyniadau i’r economi’n “waeth na’r marwolaethau o’r feirws”.

Mae Syr Desmond Swayne ymhlith y rhai sy’n rhybuddio y bydd y cyfyngiadau’n “drychinebus” i’r economi.

Bydd aelodau seneddol yn cynnal dadl ar gynigion Llywodraeth Prydain i arafu ymlediad y coronafeirws yn nes ymlaen yr wythnos hon, a’r disgwyl yw y bydd pleidlais ddydd Mercher (Tachwedd 4).

Ond mae rhai aelodau seneddol Ceidwadol wedi awgrymu y gallen nhw bleidleisio yn erbyn cynnig y Llywodraeth.

Yn ôl Syr Desmond Swayne, byddai’n cymryd “cryn dipyn o berswadio” cyn y byddai’n barod i gefnogi’r “camau trychinebus” mae’r llywodraeth yn eu cynnig.

Mae’n dweud ei fod yn gofidio am y “canlyniadau trychinebus” i swyddi, busnesau a “blynyddoedd o dan-gyllido” wrth i gyfradd y marwolaethau barhau’n gyson â’r ffigurau blynyddol arferol.

“Mae’n anodd iawn credu gwyddonwyr sy’n dweud wrthoch chi fod yna bandemig marwol yn digwydd pan nad oes yna farwolaethau dros ben sydd y tu hwnt i’r cyfartaledd pum mlynedd,” meddai.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi dewis trywydd sy’n waeth na marwolaethau o’r feirws.”

‘Ergyd’

Mae Syr Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, hefyd yn dweud y bydd y cyfyngiadau’n “ergyd” i bobol yng ngwledydd Prydain.

“Wrth i’r economi godi, a rhoi achos i fod yn optimistaidd hyd yn oed, rydyn ni nawr yn mynd i ddynwared y Grand Old Duke of York, gan ildio i’r ymgynghorwyr gwyddonol a martsio Lloegr yn ôl i mewn i gyfnod clo arall,” meddai.

“Mae’r ffordd mae SAGE wedi pwyso ar y Llywodraeth i gymryd y penderfyniad hwn yn ddi-gynsail.

“Fel arfer, mae ymgynghorwyr yn cynghori a gweinidogion yn penderfynu.

“Ond eto, mae’r system honno wedi torri, gyda SAGE yn credu bod eu cyngor yn fwy fel gorchmynion wedi’u cerfio ar garreg a’u haelodau’n pregethu’n gyhoeddus wrth y Llywodraeth pan fo’n anghytuno.”

Mae’r Blaid Lafur yn dweud y byddan nhw’n cefnogi’r cyfyngiadau.