Mae NFU Cymru yn dweud bod cryfhau swyddogaeth y Comisiwn Masnach ac Amaeth “yn garreg filltir”.

Mae ymestyn ei swyddogaeth, sy’n ei wneud yn statudol gydradd, yn golygu y bydd gan ffermwyr yng ngwledydd Prydain fwy o lais ym mholisi masnach Llywodraeth Prydain.

Mae hefyd yn golygu y bydd y comisiwn yn cyhoeddi adroddiad ar effaith pob cytundeb masnach rydd sy’n cael ei lofnodi ar ôl cyfnod pontio Brexit ar les anifeiliaid ac amaeth.

Bydd yr adroddiad ar gael yn San Steffan fel rhan o broses graffu 21 diwrnod yn unol ag amodau’r Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethiant.

Fe fu NFU Cymru’n lobïo yn dilyn deiseb ar safonau bwyd a gafodd ei llofnodi gan fwy na miliwn o bobol.

Ymateb NFU Cymru

“Dydy NFU Cymru ddim wedi gwneud cyfrinach o’r ffaith ein bod ni eisiau gweld ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddeddfwriaeth gynradd ar safonau bwyd, yn y Bil Amaeth a’r Bil Masnach – dyma rydyn ni wedi bod yn gofyn amdano ers peth amser,” meddai John Davies, Llywydd NFU Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad hwn, felly, yn garreg filltir ac yn un y dylid ei chroesawu gan bawb sy’n gofidio am ein bwyd, ein hamgylchedd a’n safonau cynhyrchu uchel.

“Bydd cryfhau swyddogaeth y Comisiwn Masnach ac Amaeth, ac ymestyn ei gyfnod, yn golygu y bydd y grŵp yn gallu cynnig mewnwelediad ac arweiniad arbenigol annibynnol ar berthnasau masnachu’r dyfodol gyda gweddill y byd cyn bod sêl bendith i unrhyw gytundebau masnach.

“Bydd adroddiadau’r grŵp yn mynd gerbron y Senedd ac yn sicrhau bod gan aelodau seneddol y cyfle i graffu cytundebau masnach y dyfodol yn iawn cyn iddyn nhw fynd yn eu blaenau.

“Mae hwn yn ganlyniad gwych i’r cyhoedd, gyda miliwn ohonyn nhw wedi llofnodi deiseb safonau bwyd NFU yn gynharach eleni, ac mae’n dangos pa mor bwysig yw’r mater hwn i gwsmeriaid.

“Hoffwn ddiolch eto i bob person a roddodd eu henwau ar y ddeiseb, ynghyd â sefydliadau ffermio eraill, gwleidyddion, arbenigwyr lles anifeiliaid, sefydliadau amgylcheddol y tu allan i’r llywodraeth, a’r cefnogwyr uchel eu proffil hynny oedd wedi sicrhau bod yna lais uchel, unedig ar y mater hwn.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio â’r llywodraeth ar ddyfodol llewyrchus a ffyniannus i fwyd Cymru.”