Daeth cadarnhad heddiw (dydd Sul, Tachwedd 1) fod dwy gymdeithas dai yn y canolbarth a’r gorllewin wedi uno’n ffurfiol.
Cafodd cynlluniau eu cyhoeddi ym mis Mai i uno Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion, gan ddechrau cyfnod ymgynghori.
Dyma’r tro cyntaf erioed i gymdeithas dai draddodiadol uno â sefydliad trosglwyddo stoc yng Nghymru.
Bydd grŵp Barcud yn berchen ar fwy na 4,000 o gartrefi yng Ngheredigion, Powys, gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ac yn eu rheoli.
Mae’r grŵp newydd yn cyfuno Gofal a Thrwsio Powys, EOM a’r Gymdeithas Gofal.
Ymateb
“Mae cwblhau’r manylion ar gyfer yr uno wedi cymryd amser, a hynny’n gywir ddigon, oherwydd roedd angen i bob partner a phob cyllidwr deimlo’n hyderus y byddai’r trefniant o fudd i’n tenantiaid,” meddai Karen Oliver, cadeirydd Barcud.
“Mae’r hyder hwnnw yn bodoli erbyn hyn ac rydym wedi cael caniatâd i greu cymdeithas dai newydd a chryf ar gyfer canol Cymru.”
Yn ôl Steve Jones, prif weithredwr Barcud, mae gan y ddwy gymdeithas sydd wedi uno yr un gwerthoedd ac uchelgais, sef ymdrin â’r prinder tai fforddiadwy.
“Rydym yn barod i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r sector tai lleol yn eu hwynebu, a gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol a gyda chymorth Llywodraeth Cymru byddwn mewn sefyllfa gryfach fyth i allu parhau i weithio tuag at yr amcan hwnnw,” meddai.
“Byddwn yn parhau i wrando ar ein tenantiaid a gweithio’n galed i ddatblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion ein cymunedau.
“Rydym o’r farn y bydd gweithio fel un sefydliad yn cryfhau ein gwasanaethau ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau a’n harbenigedd ar y cyd i helpu i gynnal a chadw, gwella ac adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn ein cymunedau.
“Rydym yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny ac rydym am i’n tenantiaid a’n staff fod yn falch o’r gwasanaethau a ddarperir gennym.
“Gyda dealltwriaeth drylwyr ein tîm o anghenion yr ardal, a’n cryfder a’n heffeithlonrwydd ar y cyd, byddwn yn gallu diwallu ystod o anghenion o ran tai yng nghanol Cymru.”