Mae John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, yn dweud y byddai’n “ffôl” pe bai Llywodraeth yr Alban yn wfftio’r posibilrwydd yn llwyr o gael ail gyfnod clo yn y wlad.

Ar hyn o bryd, eu bwriad yw parhau â system haenau wrth i gyfraddau heintio barhau’n is na Lloegr, fydd yn dechrau ar gyfnod clo ar Dachwedd 5.

Dywed John Swinney fod Llywodraeth yr Alban “yn hyderus iawn” y bydd y system haenau’n llwyddo i atal ymlediad y coronafeirws, a bod yr Alban “ar y cyfan mewn sefyllfa gryfach na Lloegr” ar hyn o bryd.

Cafodd trigolion yr Alban eu gwahardd rhag ymweld â chartrefi ei gilydd ym mis Medi, gyda chyfyngiadau llym ar dafarnau a bwytai’n cael eu cyflwyno fis diwethaf.

Gwrthod wfftio cyfnod clo cenedlaethol

“Mae’r amser rydyn ni wedi’i gymryd i wasgu ar y feirws dros y ddeufis diwethaf wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach, ar y cyfan, na Lloegr heddiw,” meddai John Swinney wrth raglen BBC Politics Scotland.

“Alla i ddim ei wfftio’n llwyr [y cyfnod clo cenedlaethol], a byddai’n ffôl gwneud hynny oherwydd rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn.

“Rydyn ni wedi cymryd camau cynnar i geisio atal cynnydd y coronafeirws yn seiledig ar y cyngor gwyddonol gafodd ei roi i ni, ac rydym wedi gweithredu’n gyflym.

“Ond alla i ddim wfftio’r posibilrwydd o fesurau pellach, na chwaith yr angen am gyfnod clo cenedlaethol pe bai’r amgylchiadau’n codi.”