Mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn mynnu y bydd y cyfnod clo dros dro yn dod i ben yng Nghymru ar Dachwedd 9.

Daw sylwadau prif weinidog Cymru ar ôl i Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, awgrymu y byddai ei gydweithiwr “yn barod amdani” pe bai gofyn iddo ymestyn y cyfnod clo er mwyn cydymffurfio â’r cyfnod clo yn Lloegr.

Ond mae Mark Drakeford yn dweud y bydd Cymru’n manteisio ar gyfarfod Cabinet i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r ffin sy’n deillio o’r ffaith fod cyfyngiadau yn eu lle yng Nghymru tan Dachwedd 9 ac yn Lloegr hyd at Ragfyr 2.

Mae’n dweud y bydd unrhyw gyhoeddiad gan Downing Street yn “berthnasol i Loegr”.

Cyfnod clo dros dro

Yn ôl rheolau’r cyfnod clo dros dro, does gan bobol y tu allan i Gymru mo’r hawl i deithio i mewn i’r wlad heb fod ganddyn nhw reswm dilys, er enghraifft i weithio neu i roi gofal, i siopa, i gael triniaeth feddygol neu i wneud ymarfer corff.

Mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd y cyfnod clo dros dro.

Bydd siopau, bariau, bwytai a champfeydd yn agor ar ôl Tachwedd 9, a bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol, tra bydd addoldai yn cael cynnal gwasanaethau eto.

Ar hyn o bryd, mae lleoliadau hamdden, lletygarwch a thwristiaeth ynghau, ynghyd â chanolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Dim ond angladdau a phriodasau sy’n cael eu cynnal mewn addoldai ar hyn o bryd.

Dim ond nwyddau hanfodol sy’n cael eu gwerthu mewn siopau sy’n cael aros ar agor, ond mae modd gwneud cais i brynu eitemau sydd wedi’u heithrio.

Ond fe allai’r cyfyngiadau newydd gynnwys gwaharddiad ar bobol rhag teithio o ardaloedd lle mae’r gyfradd heintio’n uchel i ardaloedd lle mae’r gyfradd yn isel – ac fe allai hynny gynnwys gwledydd eraill.