Mae Mark Drakeford “yn barod amdani” oedd ymateb Syr Keir Starmer wrth gael ei holi pa mor barod fyddai prif weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru i dderbyn cyfnod clo ledled Prydain.

Daeth ei sylwadau ar raglen Andrew Marr ar y BBC, yn dilyn cadarnhad y bydd Lloegr yn dechrau ar gyfnod clo ar Dachwedd 5 fydd yn para tan Ragfyr 2.

Bydd cyfnod clo dros dro Cymru’n dod i ben ar Dachwedd 9, a dydy hi ddim yn glir eto beth fydd camau nesaf Llywodraeth Cymru ar ôl hynny.

Mae pwysau ar Lywodraeth Cymru o sawl cyfeiriad erbyn hyn i “ddilyn Lloegr” wrth gyflwyno cyfyngiadau.

‘Delfrydol’

Yn ôl Syr Keir Starmer, byddai’n “ddelfrydol” pe bai Cymru’n dilyn yr un cyfyngiadau â Lloegr yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Ond ar yr un pryd, mae’n dweud bod yna “rwystredigaeth” ynghylch y diffyg cyfathrebu a fu rhwng y llywodraethau ar y mater.

“Dw i wedi dweud ers misoedd y dylai fod yn ddull pedair gwlad,” meddai.

“Dw i’n gwybod fod Mark Drakeford yn rhwystredig ynghylch y diffyg cyfathrebu rhyngddo fe a’r prif weinidog [Boris Johnson].

“Fe ddylai fod yn ddull pedair gwlad pe bai’n bosib.

“Mater i’r prif weinidog [Boris Johnson] yw arwain ar hynny a chael pobol o amgylch y bwrdd i wneud yr un fath.

“Yr hyn mae Mark Drakeford ei eisiau yw gwell cyfathrebu â’r prif weinidog er mwyn cytuno ar y ffordd ymlaen, a dw i’n siŵr y byddai’n barod amdani pe bai’r prif weinidog yn ei ffonio fe y prynhawn yma.”

Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd y cyfnod clo dros dro yn dod i ben ar Dachwedd 9, ac mae disgwyl iddo atseinio hynny mewn cynhadledd i’r wasg fore dydd Llun (Tachwedd 2).