Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, yn dweud ei fod yn “difaru” na chafodd gweithwyr Cymru “eu blaenoriaethu yn yr un modd” â gweithwyr yn Lloegr gan Lywodraeth Prydain.
Daw ei sylwadau ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Prydain am ymestyn y cynllun ffyrlo ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi y bydd Lloegr yn dechrau ar gyfnod clo ar Dachwedd 5 a fydd yn para tan Ragfyr 2.
Ond fe wnaeth y Trysorlys wrthod ymestyn y cynllun ar gyfer gweithwyr Cymru a’r Alban pan oedd y ddwy wlad yn wynebu cyfyngiadau coronafeirws pellach, cyn i Loegr wynebu cyfnod clo arall.
Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 31), wrth i Boris Johnson gynnal cynhadledd coronafeirws i gyhoeddi’r cyfnod clo, y byddai’r cynllun nawr yn cael ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Tachwedd.
Fe wnaeth y Trysorlys hefyd wrthod gweithredu’r Cynllun Cymorth Swyddi, olynydd i’r cynllun ffyrlo, wythnos yn gynt na’r disgwyl er mwyn ymateb i’r cyfyngiadau yng Nghymru a’r Alban.
‘Petruso’
“Fe wnaeth y Canghellor anwybyddu’n barhaus alwadau Plaid Cymru i ymestyn ffyrlo i weithwyr yng Nghymru cyn y cyfnod clo dros dro,” meddai Ben Lake.
“Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn oed wrthod symud y Cynllun Cymorth Swyddi gan wythnos, gan ddadlau ei bod yn amhosib gwneud hynny.
“Dw i’n croesawu gweithgarwch cyflym y Canghellor i gefnogi busnesau yn Lloegr, ond yn difaru na chafodd gweithwyr Cymru eu blaenoriaethu yn yr un modd.
“Mae pobol ledled Cymru wedi colli eu swyddi dros y dyddiau diwethaf oherwydd petruso Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Er mwyn osgoi gosod gweithwyr a busnesau Cymru yng nghanol rhagor o ansicrwydd, rhaid i Drysorlys y Deyrnas Unedig ymrwymo i gynnal y cynllun ffyrlo yng Nghymru cyhyd ag y mae Llywodraeth Cymru’n gweld yr angen i gefnogi ein mesurau iechyd cyhoeddus.”