Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi cyfres o fesurau “symlach” newydd i geisio atal lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym pan fydd y clo dros dro yn dod i ben ddydd Llun, Tachwedd 9.

Dywedodd y Prif Weinidog fod gan bawb yng Nghymru “ran bwysig i’w chwarae i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – ac mae hynny’n golygu meddwl yn ofalus am y cysylltiad rydyn ni i gyd yn ei gael â phobol eraill.

“Y mwyaf o bobol rydyn ni’n cwrdd â nhw, y mwyaf o bobol fydd mewn perygl o ddal y coronafeirws,” meddai.

Nod y rheolau newydd yw diogelu iechyd pobol dra hefyd yn darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn parhau i gylchredeg.

Mae’r mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus yn parhau.
  • Bydd gofyn i bobol weithio gartref lle mae’n bosibl.
  • Bydd dwy aelwyd yn cael ymuno i greu swigen.
  • Cyn belled â’u bod yn dilyn yr holl fesurau caiff hyd at 15 o bobol gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do, a hyd at 30 mewn gweithgareddau awyr agored.
  • Bydd bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod clo dros dro, yn ailagor.
  • Fe fydd pobol yn cael teithio o fewn Cymru, ond dylai pobol osgoi teithio os nad yw’n hanfodol.

Fe fydd ysgolion, addoldai a chanolfannau cymunedol hefyd yn cael ail-agor.

Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod y rheolau yn ymwneud ag ail agor y diwydiant lletygarwch.

‘Sicrhau nad yw’r aberth yn mynd yn ofer’

“Mae pawb wedi gwneud cymaint o aberth eleni yn barod”, meddai Mark Drakeford.

“Er mwyn sicrhau nad yw’r holl waith caled yn mynd yn ofer, mae angen i ni barhau i ofalu am ein gilydd a diogelu ein hunain.

“Mae cysylltiad cymdeithasol yn bwysig i bob un ohonom, ond er mwyn diogelu ein hunain a’n hanwyliaid mae angen i ni feddwl yn ofalus am ein holl gyfarfodydd a’n cysylltiadau â phobol eraill a cheisio cyfyngu arnynt er mwyn lleihau’r risg o gael ein heintio.

“Yn hytrach na gofyn beth gawn ni ei wneud neu beth na chawn ni ei wneud, mae angen i ni ofyn i ni’n hunain beth ddylen ni fod yn ei wneud i gadw ein teuluoedd yn ddiogel.

Lloegr

Bu Prif Weinidog Cymru hefyd yn son am y rheolau o ran mynd a dod rhwng Lloegr a Chymru yn y gynhadledd.

Ond mynnodd na fyddai penderfyniadau yng Nghymru yn cael eu llywio gan benderfyniadau a wneir gan wledydd eraill mewn amgylchiadau gwahanol.

“Yr wythnos diwethaf gofynnwyd llawer o gwestiynau i mi am pam y cawsom glo dros dro o gwbl pan oeddent yn Lloegr yn delio ag ef gyda system haenau, a pham nad oeddem ni wedi gwneud hynny?” meddai Mr Drakeford.

“Yna, dros y penwythnos, newidiodd y Prif Weinidog [Boris Johnson] ei feddwl ac erbyn hyn gofynnir i mi pam nad wyf yn dilyn y tro diweddaraf yn y stori Saesnig – yn syml ni fyddwn yn cael ein gyrru gan bethau sy’n digwydd yn y ffordd honno.

“Y cyngor a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a’n gwyddonwyr oedd pe baem yn gweithredu’n gynnar a phe baem yn cael cyfnod o 17 diwrnod a oedd yn fyr ond yn finiog… dyna oedd ei angen arnom i’n helpu i [helpu i atal lledaeniad y firws yng Nghymru].”

Ffigurau diweddaraf Cymru

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 1,646 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws heddiw (2 Tachwedd), gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 53,337.

Nodwyd tair marwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 1,891.