Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi bod yn sôn am gymryd rhan mewn cyfarfod Cobra dan arweiniad Michael Gove.

Yn y cyfarfod, dywedodd Ms Sturgeon y dylai’r cynllun ffyrlo fod ar gael i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon pryd bynnag y bo’n ofynnol yn ystod y pandemig.

Dywedodd Ms Sturgeon: “Ar hyn o bryd, yr arwydd yw mai dim ond ar gyfer y mis nesaf, yn ystod cyfnod clo Lloegr, y bydd y cynllun ariannu ar gael.

“Rydym yn parhau i bwyso’r achos dylai fod ar gael i weinyddiaethau datganoledig pryd bynnag y bo ei angen a chredaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl resymol yn credu mai dyna’r sefyllfa deg. Rwyf i – gyda chydweithwyr yn llywodraethau Cymru a Gogledd Iwerddon – wedi pwysleisio’r pwynt hwnnw…”

Ystyried cyflwyno cyfnod clo arall

System haenau sydd ar waith yn yr Alban, ond dywedodd Ms Sturgeon ei bod hi’n ystyried cyflwyno clo cenedlaethol arall yn yr Alban gan fod y cynllun ffyrlo wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd y mis.

“Fe wnes i’n glir yr wythnos diwethaf, efallai y bydd yn rhaid i ni fynd ymhellach eto ac na allwn ddiystyru – ac na ddylem ddiystyru – symud i Lefel 4 ar gyfer y wlad gyfan.

“Ac er na fyddai’r penderfyniad hwnnw yn un hawdd, nid oes amheuaeth bod argaeledd cynllun ffyrlo mwy helaeth a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Sadwrn yn ei gwneud ychydig yn haws oherwydd byddai gan weithwyr fwy o’u cyflogau.

“Y penderfyniad mae’n rhaid i ni bwyso a mesur yn y dyddiau nesaf yw hyn, a ddylem fanteisio ar y cyfle i gael cymorth ariannol mwy hael ac ymestyn y cyfnod clo, i geisio gyrru cyfraddau heintio i lawr yn gyflymach ac yn fwy cadarn?”