Mae Gweinyddiaeth Fewnol Afghanistan wedi dweud o leiaf 19 wedi marw a 22 wedi’u hanafu, mewn ymosodiad ar Brifysgol Kabul yn Afghanistan, lle mae tua 17,000 o fyfyrwyr yn astudio.

Dywedodd llefarydd y weinyddiaeth, Tariq Arian, fod y tri ymosodwr oedd yn rhan o’r ymosodiad ar y campws wedi cael eu lladd.

Roedd y brifysgol yn cynnal ffair lyfrau a fynychwyd gan lysgennad Iran i Afghanistan pan ymosododd y tri.

Nid yw’r un grŵp wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad – ac mae’r Taliban wedi cyhoeddi datganiad yn dweud nad nhw oedd yn gyfrifol.

Mae trais yn parhau yn Afghanistan hyd yn oed wrth i’r Taliban a thîm negodi a benodwyd gan y llywodraeth drafod cytundeb heddwch i ddod â mwy na phedwar degawd o ryfel i ben yn y wlad.

Mae’r trafodaethau yn Qatar wedi bod yn boenus o araf ac er gwaethaf y galw am leihau trais, mae’r anhrefn wedi parhau.

Y llynedd, llofruddiwyd wyth o bobl gan fom y tu allan i gatiau’r campws.