Wrth i Loegr wynebu mis o gyfnod clo cenedlaethol, rhybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y sefyllfa yn “creu cyd-destun newydd i ni yng Nghymru.”
Aeth golwg360 i gael ymateb perchnogion tafarndai, gyda llawer yn pryderu y byddai cyflwyno rheolau newydd eto yn gwneud sefyllfa ddryslyd, yn fwy dryslyd fyth…
Y Llangollen ac Y Siôr, Bethesda
Yn ôl Dewi Siôn, perchennog dwy dafarn ym Methesda, buasai gorfodi tafarndai i gau yn gynt yn benderfyniad “hollol stupid.”
“Dydw i ddim yn gweld o’n deg o gwbl,” meddai, “mae o ddigon drwg bod ni wedi gorfod cau am ddeg o’r gloch. Dydi hynny ddim wedi gwneud dim gwahaniaeth o gwbl – mae o jyst yn meddwl fod pobl wedi bod yn dod allan yn gynt.”
Eglurodd Dewi Siôn nad eu cyfrifoldeb nhw fel perchnogion busnes yw plismona’n sefyllfa.
“Dwi jyst ddim yn deall pam bod nhw’n ystyried y peth – does ’na ddim pwynt. Mae o i fyny i’r heddlu i fod yn gwneud eu gwaith a stopio pobol rhag dod drosodd.”
“Fysa ’na ddim pwynt agor os am gau yn gynt – mae o mor syml a huna.”
Black Boy, Caernarfon
Mae perchennog tafarn y Black Boy, John Evans, wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn poeni y byddai’r penderfyniad yn creu fwy o ddryswch nag o’i werth.
“Does ’na neb yn gwybod be sy’n mynd ymlaen,” meddai.
“Ar hyn o bryd, does ganddo ni ddim cliw be dani’n talu staff – mae ’na bedwar gwahanol scheme ar gael ar y funud – a rŵan maen nhw’n gwneud yr un peth hefo’r cwsmeriaid – dydyn nhw ddim yn gwybod os ydyn nhw’n mynd ta dŵad chwaith.”
Dywedodd fod angen i’r Llywodraeth sicrhau bod unrhyw reol neu ganllawiau newydd yn gwbl glir, er lles y perchnogion, y staff a’r cwsmeriaid.
“Pan ‘da chi hefo darnau o reolau gwahanol ym mhob man – mae o fel rhoi eich llaw mewn poced o wydr – dydych chi ddim yn gwybod pa ddarn ’da chi isio.”
“Cyn belled a bo’ chi’n gwybod be yda chi’n neud ’da chi’n gallu planio amdano fo ond os does gennych chi ddim plan, mai’n flêr a’r broblem fan hyn ydi bod ‘na tua deg plan – dyna ydi’r drwg.”
“Chwarae o gwmpas yda ni mewn ffordd – achos does ’na neb yn gwybod be ydi’r ateb cywir.”