Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, wedi annog y Prif Weinidog i fwrw ymlaen â chytundeb Brexit gyda Brwsel.

Dywedodd Mr Starmer wrth gynhadledd y CBI fod angen i Boris Johnson weithredu ar ei addewid etholiadol i sicrhau cytundeb ymadael.

“Does dim gobaith o estyniad a doedd dim pleidlais yn mynd i gael ei chynnal yn y Senedd,” meddai.

“Nid oedd unrhyw ffordd o’i orfodi a dyna pam dw i’n dweud wrth y Prif Weinidog, ‘Fe wnes di addo cytundeb, tyrd yn dy flaen’.

“Aeth y Prif Weinidog i’r wlad fis Rhagfyr diwethaf gydag un ymrwymiad canolog a hynny oedd bod ganddo gytundeb Brexit eisoes – un yn ‘barod ar gyfer y ffwrn’ – ac yn awr mae angen iddo gyflawni hynny oherwydd bydd yr effaith ar fusnesau, cymunedau a’r wlad gyfan yn sylweddol os yw’n methu â chyflawni’r ymrwymiad hwnnw.”

Llafur eisiau gweithio gyda busnesau

Dywedodd Mr Starmer fod Llafur eisiau weithio gyda busnes.

“Bydd llywodraeth Lafur o dan fy arweiniad i o blaid busnes, gan weithio gyda busnesau a’u cydnabod am yr hyn ydyn nhw,” meddai.

Galwodd am “ailfeddwl” ynghylch yr economi a dywedodd y byddai’n gwneud hynny ar y cyd â busnesau.

Pan ofynnwyd iddo am wladoli, dywedodd Syr Keir: “Os edrychwch ar y rheilffyrdd, mae problemau gwirioneddol gyda’r cwmnïau sydd wedi bod wrth y llyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym bellach mewn sefyllfa sydd wedi newid ac mae’r mwyafrif llethol o’r cyhoedd am weld y rheilffyrdd mewn rhyw fath o berchnogaeth gyffredin ac rwy’n cefnogi hynny.”

Ychwanegodd: “Nid wyf yn credu fod un ateb yn addas i bawb, ond rwy’n credu bod enghreifftiau clir – a byddai cyfiawnder troseddol yn un ohonynt – o lle nad yw preifateiddio wedi gweithio.”