Bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn edrych ar ddull ar y cyd o ymdrin â chyfnod y Nadolig yn sgil achosion newydd o’r coronafeirws, meddai Swyddfa’r Cabinet.

Daw hyn ar ôl i Michael Gove gadeirio cyfarfod o bwyllgor argyfwng Cobra a oedd hefyd yn trafod gweithio tuag at “gydlynu negeseuon cyhoeddus, yn enwedig o ran teithio o fewn y DU a thramor.”

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet: “Adolygodd y Gweinidogion y data diweddaraf a chyflwyniad gan brif swyddog meddygol a phrif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, cyn trafod y dulliau sy’n cael eu defnyddio mewn gwahanol rannau o’r DU, gan gynnwys y mesurau cenedlaethol newydd a ddaw i rym yn Lloegr ddydd Iau.

“Cytunodd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ar bwysigrwydd cydlynu negeseuon cyhoeddus, yn enwedig ar deithio yn y DU a thramor.

“Bydd swyddogion ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd yn cydweithio ar ddull gweithredu ar y cyd at gyfnod y Nadolig.

“Cytunodd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig hefyd ar bwysigrwydd rhannu gwybodaeth a data gan gynnwys pa fesurau oedd yn llwyddiannus.

“Cytunwyd y byddai cyfarfod pellach o weinidogion a swyddogion perthnasol yn ddiweddarach yr wythnos hon, a thrafodaeth benodol ar fesurau teithio rhyngwladol.”

Credir hefyd fod cymorth ariannol wedi’i drafod, yn dilyn cryn gecru am ehangu’r cynllun ffyrlo i gyd-fynd â chynlluniau Lloegr, ond ddim y gwleyddd eraill, ond ni roddodd llefarydd Swyddfa’r Cabinet fanylion, dim ond fod cymorth ariannol wedi’i drafod “yng nghyd-destun ymestyn y cynllun ffyrlo a’r symiau canlyniadol perthnasol drwy Barnett.”

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud y dylai’r cynllun ffyrlo fod ar gael pryd bynnag y bo’n ofynnol yn ystod y pandemig.