Mae sylfaenydd Plaid Brexit, Nigel Farage, wedi disgrifio Donald Trump fel y “dyn dewraf dw i erioed wedi ei gyfarfod” wrth iddo ymgyrchu â’r Arlywydd yn Arizona yn yr Unol Daleithiau.

Bu Nigel Farage yn ymgyrchu gyda Donald Trump yn ystod etholiad 2016 hefyd.

Cafodd Nigel Farage ei gyflwyno i gefnogwyr yr Arlywydd mewn maes awyr yn Phoenix, gyda Donald Trump yn honni bod “llawer o bobl yn dweud mai ef yw un o’r dynion mwyaf pwerus yn Ewrop.”

“Pedair blynedd yn ôl cefais yr anrhydedd o ddod i America gyda neges Brexit, sef neges y gallwch drechu’r sefydliad.

“A dyna a wnaeth Donald Trump – trechodd y polau, trechodd y cyfryngau, trechodd yr holl ragfarnau, ac nid ydynt erioed wedi maddau iddo am hynny.

“Maen nhw wedi treulio pedair blynedd yn ceisio ei ddisodli.

“Dyma’r person mwyaf gwydn a dewr dw i erioed wedi cyfarfod yn fy mywyd.”