Mae’r ymateb chwyrn i reolau’r ‘clo dros dro’ wedi bod yn “sioc” i’r Prif Weinidog, a buasai wedi gwneud “nifer o bethau” yn wahanol pe bai’n medru teithio yn ôl mewn amser.

Dyna ddywedodd Mark Drakeford wrth ateb cwestiynau’r cyhoedd ar ffrwd byw WalesOnline brynhawn dydd Mercher (Hydref 28).

Mae clo cenedlaethol wedi bod mewn grym ers bron i wythnos bellach, ac ar ddechrau’r cyfnod yma roedd cryn ddryswch ynghylch pa nwyddau y gellir eu prynu dan y rheolau.

Wnaeth sawl un gyfleu eu hanniddigrwydd trwy achosi niwsans mewn siopau, a chafodd un fenyw broblemau wrth brynu cynnyrch mislif. Yn ôl y Prif Weinidog, dylid fod wedi paratoi’n well.

“Roedd nerth yr ymateb yn ychydig o sioc i mi,” meddai. “A hynny am fy mod i wedi credu ein bod wedi cyfathrebu [y rheolau] yn ddigonol i bobol.

“Yn amlwg daeth i’r amlwg nad dyna oedd y sefyllfa. Pe bawn yn medru teithio wythnos yn ôl mewn amser mae [yna] nifer o bethau y buaswn wedi eu gwneud yn wahanol.

“Felly roedd yna bethau y gallwn wedi eu gwneud i baratoi am y cyfan yn well,” meddai wedyn.

“Ond buaswn i ddim yn newid y penderfyniad sylfaenol – sef i gael pythefnos lle’r rydym ni’n dwysau’n hymdrechion er mwyn gwrthdroi’r don o coronafeirws.”

Nid da lle gellir gwell

Dywedodd Mark Drakeford y dylai’i Lywodraeth fod wedi gweithio’n “fwy clos” ag archfarchnadoedd er mwyn sicrhau nad oedd camddealltwriaeth ynghylch y rheolau.

Ar ben hynny, dywedodd y dylai’r Llywodraeth fod wedi “gweithio ychydig yn galetach” i esbonio i’r cyhoedd “nad y pythefnos hwn oedd yr amser i fynd allan a phori [browse] trwy nwyddau mewn siopau” – hynny yw, nid dyma’r amser i siopa mewn modd hamddenol.